Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cameron yn dadlau o blaid cadw’r Deyrnas Unedig

Chwefror 16, 2012 06:52, Diweddarwyd am 06:53


Fe fydd David Cameron yn dadlau o blaid cadw’r Deyrnas Unedig yn gyflawn heddiw, oriau cyn cyfarfod allweddol â Phrif Weinidog yr Alban.

Fe fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cwrdd ag Alex Salmond er mwyn trafod refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad.

Daw’r cyfarfod ar ôl i Brif Weinidog yr Alban drafod ei gynlluniau i gynnal y bleidlais ar annibyniaeth ag Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, ddechrau’r wythnos.

Ond ychydig oriau cyn y cyfarfod fe fydd David Cameron yn traddodi araith yng Nghaeredin gan ddadlau o blaid cadw’r Deyrnas Unedig yn gyflawn.

“Mae’r frwydr bellach wedi dechrau er mwyn cadw rhywbeth sydd wir o werth: sef y Deyrnas Unedig,” meddai nodiadau ei araith.

“Rydw i’n bwriadu brwydro â fy holl enaid er mwyn cadw’r Deyrnas Unedig yn gyflawn. Nid polisi neu strategaeth yw hyn – rydw i’n credu ynddo â fy mhen, fy nghalon a fy enaid.

“Mae ein cartref ni dan fygythiad ac mae angen i bawb sy’n pryderu am hynny ei ddatgan yn glir.

“Fe fydd yn bosib dadlau am ansicrwydd dibyniaeth ar olew, problemau â dyled a’r system fancio fawr. Ond nid dyna’r pwynt.

“Fe fydd yr ymgyrch o blaid cadw’r Deyrnas Unedig yn un cyfan gwbl gadarnhaol. Rydyn ni’n well â’n gilydd.”

Fe fydd yn ychwanegu bod yr Alban yn “gryfach, saffach, cyfoethocach a thecach” yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Gyda’n gilydd mae gennym ni lais uwch o lawer yn y byd, mae gennym ni sedd barhaol ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, mae pobol yn gwrando ar ein barn ar Nato ac yn Ewrop, ac mae gennym ni ddylanwad ar ein cynghreiriaid ledled y byd,” meddai.

“Rydyn ni’n saffach hefyd, â’r bedwaredd gyllideb amddiffyn fwyaf yn y byd, a hynny mewn byd sy’n mynd yn fwy a mwy peryglus. Mae ein gelynion yn ein hofni ni a’n cyfeillion yn ein hedmygu.

“Rydyn ni’n gyfoethocach. Mae poblogaeth yr Alban o bum miliwn yn rhan o economi o 60 miliwn, y seithfed economi fwyaf ar y blaned ac un o rymoedd masnachol mwyaf y byd.”

‘Cynnydd’

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Alex Salmond, ei fod yn bwysig cwrdd er mwyn trafod dyfodol cyfansoddiadol y wlad.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â’r Prif Weinidog. Ef sy’n penderfynu ar bolisi cyfansoddiadol Llywodraeth San Steffan felly mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i drafod y materion yma gydag ef, yn ogystal ag Ysgrifennydd yr Alban,” meddai.

Mae Alex Salmond eisoes wedi dweud ei fod yn bwriadu cynnal refferendwm yn hydref 2014 – ond mae Llywodraeth San Steffan yn mynnu nad oes ganddyn nhw’r awdurdod er mwyn gwneud hynny.

Ar ôl cwrdd ag Ysgrifennydd yr Alban ddydd Llun dywedodd Alex Salmond eu bod nhw wedi gwneud “rhywfaint o gynnydd”.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Neilyn , Chwefror 16, 2012 8:50 am

“Mae ein cartref ni dan fygythiad ac mae angen i bawb sy’n pryderu am hynny ei ddatgan yn glir.”

Dwi’n pryderu’n fawr iawn am y ffaith fod Prif Weinidog yr UK yn ystyried yr Alban, a mwy na hefyd Chymru a Gogledd Iwerddon, i fod yn rhan o’i gartref ef, ac yn bendant yr wyf am ddatgan hynny’n glir.

Fel Cymro dwi’n ystyried fod fy nghartref innau dan fygythiad hefyd, ac yn od iawn, dwi bron yn sicr fod yna rhyw gysylltiad tywyll a thwyllodrus rhwng y bygythiad yma a’r un mae Mr Cameron yn son amdano. Felly, dwi’n bwriadu dal ati i ddatgan fy mhryder am hynna’n glir hefyd.

Iawn Mr Cameron?

§| Nodi camddefnydd

Mali , Chwefror 16, 2012 12:02 pm

Dwi ddim yn dilyn dadl Cameron. Os fuasa Alban yn rheoli nwy a olew ei shar hi, fuasa Alban fel Saudia Arabia Ewrop, un o’r wledydd gyfoethocach Ewrop yn sicr. Hydnod mwy na Norwy.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.