Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Datganoli i’r eithaf – ‘Penderfyniad i Brydain gyfan’

Chwefror 17, 2012 06:29, Diweddarwyd am 06:31


Senedd yr Alban
Mae pwyllgor yn Senedd San Steffan wedi dweud y dylai y Deyrnas Unedig gyfan gael pleidleisio i benderfynu a ddylai Senedd yr Alban gael grymoedd pellach.

Dywedodd y pwyllgor na ddylai pleidlais ar ddatganoli i’r eithaf (devo-max) gael ei gynnig i bobol yr Alban yn unig.

Byddai yn rhaid i bawb yn y Deyrnas Unedig bleidleisio o blaid sefydlu cyfundrefn dreth newydd yn yr Alban, oherwydd fe fyddai hynny yn effeithio ar y boblogaeth gyfan, yn ôl pwyllgor cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi.

Daw argymhellion y pwyllgor ddiwrnod ar ôl i’r Prif Weinidog, David Cameron, addo rhagor o rymoedd i Senedd yr Alban pe bai’r boblogaeth yn penderfynu troi cefn ar annibyniaeth.

Ychwanegodd y pwyllgor cyfansoddiadol nad oedd gan Senedd yr Alban yr awdurdod i alw refferendwm heb ganiatâd Senedd San Steffan.

“Ar ôl edrych ar bapurau ymgynghorol y llywodraethau mae’n amlwg nad oes gan Senedd yr Alban yr awdurdod i alw refferendwm ar eu pennau eu hunain,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Baroness Jay.

“Rydyn ni hefyd yn gryf o’r farn y dylai unrhyw refferendwm fod yn benderfyniad ‘ie neu na’ rhwng annibyniaeth neu’r status-quo.

“Byddai yn rhaid i bob rhan o’r Deyrnas Unedig bleidleisio o blaid datganoli i’r eithaf, a fyddai yn creu cyfundrefnau treth gwahanol iawn o fewn y Deyrnas Unedig.”

Mae’r broses o ddatganoli grymoedd ariannol i’r Alban yn debygol o osod cynsail ar gyfer Cymru pe bai’r wlad honno yn penderfynu dilyn yr un broses.

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi ymateb i gynnig David Cameron am ragor o rymoedd, gan ddweud na fydd pobol y wlad yn “cael eu twyllo” ganddo.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Guto , Chwefror 17, 2012 1:48 pm

Mae yna gynfundrefnau gwahanol iawn yn bodoli yn barod ymysg y pedwar gwlad a chafodd y cyfundrefnau hyn eu creu heb refferendwm ledled prydain. Felly i mi dyw’r ddadl y mae’r pwyllgor yn cynnig ddim yn sefyll.

Wedi dweud hynny, dyw’r system bresenol o gael pedwar cyfundrefn gyda gwahanol bwerau (gyda rhai pwerau yn gorgyffwrdd ac eraill yn gweithio yn erbyn ei gilydd) ddim yn gwneud synnwyr ac yn anheg iawn, yn enwedig i raddau helaeth ar Loegr. Yr unig ateb synhwyrol yw annibyniaeth i’r pedwar gwlad (gyda Iwerddon yn uno’n un wlad).

Un peth da sy’n dod o ddadl y pwyllgor hon yw ei fod e’n enghraifft arall o San Steffan yn ceisio bwlio a gorymestyn eu pwerau gan wadu hawl poblogaeth yr Alban i ddewis trywydd ei hun heb ymyraeth o’r tu fas. Gobeithio y bydd hyn yn perswadio’r Albanwyr mae’r unig ffordd o sicrhau eu bod yn cael hawliau teg yw drwy bleidleisio dros annibyniaeth. Gawn ni ond a gobeithio y bydd Cymru teoglyd wedyn yn dilyn ecsiampl yr Alban rywbryd y ganrif hon.

§

Gwynfor Davies , Chwefror 17, 2012 3:41 pm

Rhaid bod hyn yn sbwriel cyfansoddiadol.
1. Roedd Yr Alban wedi ymuno gyda Lloegr (o dan gwmwl!!) ac felly gall adael heb gyniatad Lloegr.
2. Os bydd Yr Alban eisiau Devo-Max. beth a wnelo gyda phologaeth Lloegr? Dim, yn gyfansoddiadol achos does dim cyfansoddiad ysgrifenedig ac ni ystyriwyd y sefyllfa hyn. Ond yn bwysicach fyth, dim o ran hawliau dynol
3. Credaf y byddai’r Llys Hawliau Dynol yn dweud nad oes hawl gan sefydliad Lloegr i ymyryd i mewn i ffyrf cwestiwn refferendwm yr Alban.

Mae’n dangos bod Llywodraeth Lloegr yn meddwl mai hi sy’n dosbarthu hawlau pobloed eraill. Agwedd ffasgaidd dwedwn i.

§

Jones , Chwefror 17, 2012 3:48 pm

Os ydy’r Alban yn dweud “na” i annibyniaeth. Dwi yn cytuno gyda Carwyn y dylai bod yna drafodaeth trwy’r DU i gyd ar y strwythyr cyfansoddiadol. Oherwydd yn amlwg yn yr Alban nid yw’r system- ac yn amlwg yng Nghymru mae yna alwadau am fwy o bwerau (llai na blwyddyn ar ol refferendwm!!).

Felly y strwythyr ymlaen yw DU hollol ffederal, Senedd/Cynulliad i Loegr. Gyda bob dim wedi’i ddatganoli (trysorlys eu hyn etc) ond am dan pethau fel y fyddin ayyb. Ond i hyn ddigwydd, dwin cytuno bod rhaid cael refferendwm trwy’r DU i gyd.

§

Roberts , Chwefror 17, 2012 9:00 pm

Dwi ddim yn hoff o “devo-max”. Geiriau hyll iawn mewn cyd-destun Cymraeg.
Dwi ddim yn hoff o ddatganoli i’r eithaf chwaith.
Beth am annibyniaeth tenau?
Unrhyw syniadau eraill?

§

John Davies , Chwefror 18, 2012 12:58 am

Smo Alex Salmond yn poeni dim am David – diw nhw ddim yn yr un cae.

§

John Griffith , Chwefror 18, 2012 9:49 am

Credaf y broblem sydd gan boblogaeth Lloegr yw nad ydynt yn gallu dygymod a’r ffaith bod yr Alban eisiau dim i wneud a’r Saeson (y genedl sydd â gwerthoedd chwarae teg ag yn y blaen).

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.