
Mae Plaid Cymru yn dweud eu bod wedi cael “addewid gwag” dros fynd i’r afael â phroblemau AWEMA gan y Blaid Lafur dros flwyddyn yn ôl.
Mae’r Blaid wedi datgelu heddiw fod un o’u cyn-Aelodau Cynulliad wedi cael addewid gan Lafur, dan glymblaid Llywodraeth Cymru’n Un, eu bod yn delio â chŵyn yn ymwneud â Chymdeithas Leiafrifoedd Ethnig Cymru.
Yn ôl Dr Dai Lloyd, oedd yn AC Plaid Cymru dros ranbarth Gorllewin De Cymru tan fis Mawrth y llynedd, fe ddaeth un o’i etholwyr ato yn mynegi pryderon “difrifol iawn” am y ffordd roedd yr elusen yn cael ei rhedeg.
‘Ymwybodol o’r problemau’
Roedd Dr Dai Lloyd yn lefarydd Plaid ar Gyfiawnder Cymdeithasol ar y pryd, a dywed ei fod wedi codi’r mater mewn cyfarfod wyneb-yn-wyneb gyda Carl Sargeant, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llafur ar y pryd.
Mae Dr Dai Lloyd yn dweud fod y Gweinidog wedi dweud wrtho ei fod yn “ymwybodol o’r problemau” ac y gallai ei sicrhau bod rhywun yn delio â’r mater.
“Roedd y materion ynghylch rhedeg AWEMA a ddygwyd i’m sylw gan f’etholwr yn ddifrifol iawn, a dyna pam i mi eu codi gyda’r Gweinidog Llafur cyn gynted ag yr oedd modd,” meddai Dr Dai Lloyd.
“Yn ystod ein cyfarfod wyneb-yn-wyneb, dywedodd Carl Sargeant wrthyf ei fod yn ymwybodol o’r materion, fod pobl yn gweithio ar y peth, a bod rhywun yn mynd i’r afael â’r pwnc. Bryd hynny, rhoddais fy ffydd yn yr hyn oedd wedi cael ei ddweud wrthyf.”
Ond mae Dr Dai Lloyd yn dweud fod y darganfyddiadau diweddar ynglŷn â sefyllfa AWEMA yn profi “nad oedd sicrwydd y Gweinidog Llafur yn ddim mwy na geiriau gwag, diwerth”.
Ymchwiliad
“O ystyried yr hyn a wyddom yn awr, rwyf yn bryderus iawn na heriodd Carl Sargeant o gwbl yr hyn oedd yn digwydd yn AWEMA fel y dylai fod wedi gwneud.”
Mae Dr Dai Lloyd nawr yn dweud ei fod yn mynd i ofyn i Swyddfa Archwilio Cymru ystyried ei brofiad ef fel rhan o’r ymchwiliad llawn i’r materion sy’n ymwneud ag AWEMA.
“Bydd llawer o bobl yn pryderu fod hyn yn dystiolaeth bellach o ymdrechion Gweinidogion Llafur i sgubo camreolaeth yn AWEMA dan y mat,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai’n “amhriodol i wneud sylw tra bod ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru ar y gweill.”