Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Band eang cyflymach i ardaloedd gwledig

Rhagfyr 27, 2011 15:14, Diweddarwyd am 15:16


Fe fydd sawl pentref gwledig a thref yng Nghymru yn cael cysylltiadau band eang cynt erbyn yr haf, cyhoeddwyd heddiw.

Mae Aberystwyth, Aberteifi, Dinbych, Aberhonddu a Rhuthun ymysg y trefi a fydd ar eu hennill o ganlyniad i’r cynllun gan gwmni BT.

Dywedodd y cwmni y bydd y band eang cyflym 10 Mbps yn cyrraedd 33 o gymunedau a 130,000 o gartrefi erbyn haf 2012.

Cyhoeddodd y rheolydd Ofcom fap yn yr haf oedd yn dangos bod darpariaeth band eang Cymru ymysg y gwaethaf ym Mhrydain.

Mae gan dros hanner y cartrefi yng Nghymru eisoes fynediad i fand eang 20 Mpbs a’r gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn ar draws tri chwarter y wlad erbyn yr haf.

Mae BT yn bwriadu gwario £2.5 biliwn ar fand eang hyd yn oed yn gyflymach, rhwng 40 a 100 Mbps erbyn diwedd 2014.

Fe fydd yn cyrraedd 170,000 o gartrefi yng Nghymru, gan gynnwys rhannau o Wrecsam, Casnewydd, Caerdydd, ac Abertawe.

Y cymunedau fydd yn cael band-eang cyflym

Abercynon

Aberdaugleddau

Aberpennar

Aberteifi

Aberystwyth

Aberhonddu

Amlwch

Blaenafon

Cydweli

Dinbych

Gilwern

Glantawe

Glynrhedynog

Gresffordd

Hen Golwyn

Llandeilo Ferwallt

Llandrillo-yn-Rhos

Llandrindod

Llandybie

Llanfair ym Muallt

Llanidloes

Porth Tywyn

Porthaethwy

Rhuthun

Saundersfoot

Talywain

Trefynwy

Tregŵyr

Treorci

Tywyn

Y Bont-faen

Y Drenewydd

Y Fali

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Rhagfyr 27, 2011 5:37 pm

A beth am y gweddill ohonom?

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Rhagfyr 27, 2011 6:22 pm

Yn gwmws, mae Rhydaman a Dyffryn Aman yn ardal sydd â phoblogaeth gweddol o faint rhyw 24.000 yn y cwm i gyd, mae’r rhyngrwyd yn uffernol o araf hefyd, dyma ardal sydd yn ddifreintiedig, oes syndod? Mae gan Aberystwyth ac Aberhonddu eisoes gwell rhyngrwyd na rhan fwyaf o Sir Gâr!

§| Nodi camddefnydd

ann rhydeddus , Rhagfyr 27, 2011 7:54 pm

Be ddigwyddodd i £10 miliwn ar gyfer bandeang Pwllheli.
Pwy sy’n cofio’r Canghellor yn datgan hyn nol yn Chwefor?
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-12418622

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.