Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



AS yn lansio ymgyrch bancio ar-lein Cymraeg

Awst 1, 2011 09:22


Susan Elen Jones
Mae Aelod Seneddol wedi lansio ymgyrch dros fancio ar-lein yn y Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ymunodd Susan Elan Jones, yr Aelod Seneddol Llafur dros Dde Clwyd, â Catrin Dafydd o Gymdeithas yr Iaith er mwyn lansio deiseb ar-lein yn galw ar fanciau i wella eu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r deiseb yn dweud y dylai banciau “gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn, gan gynnwys gwasanaeth bancio ar-lein llawn yn y Gymraeg”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw wedi bod yn lobio HSBC i gychwyn gwasanaeth ar-lein Cymraeg, ond fod y cwmni wedi gwrthod newid ei bolisi.

Mewn e-bost at y mudiad, fe ddywedon nhw “…nid oes unrhyw gynlluniau i gynnig bancio personol [ar-lein] drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, ond mae eich sylwadau wedi’u nodi…”

Dywedodd Susan Elan Jones, AS Llafur De Clwyd, fod y gwasanaeth yn bwysig wrth i ragor o bobol ddefnyddio bancio ar-lein.

” Rydw i’n credu bod yr amser wedi dod i fanciau gynnig y gwasanaeth yn Gymraeg,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i Gymdeithas yr Iaith am lansio’r ymgyrch bwysig hon. Rwy’n gobeithio y bydd y Comisiynydd Iaith newydd yn gallu edrych i mewn i wasanaethau banciau pan gaiff hi neu fe ei benodi. ”

‘Amhosib’

Dywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau Cymdeithas, fod y “rhan fwyaf ohonom yn defnyddio banciau o ddydd i ddydd

“Ond wrth i ragor o ganghennau gau a llyfrau siec dod i ben, mae’n dod yn anos derbyn gwasanaethau yn Gymraeg,” meddai.

“Mae’n amhosib i fancio ar-lein yn Gymraeg. Nid oes un banc yn cynnig gwasanaethau bancio ar-lein yn y Gymraeg, er bod nifer o fentrau sydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr yn ei wneud.

“Wrth i ragor o wasanaethau symud ar-lein, mae nifer o gwmnïau a sefydliadau eraill yn anwybyddu’r Gymraeg. Eu meddylfryd yw fod y Gymraeg yn rhywbeth ymylol nad oes rhaid ei ddarparu, ond mae galw am y gwasanaeth hwn yn Gymraeg.
“Ers y 60au, mae’r Gymdeithas wedi sicrhau nifer o wasanaethau dwyieithog ychwanegol, ond wrth i dechnoleg newid, mae rhai o’r buddugoliaethau hynny yn cael eu gwrth-droi. Dyna  pam rydym yn lansio’r ymgyrch heddiw.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Adam Jones , Awst 1, 2011 9:48 am

Cytuno cant y cant, mae’n anghyflawn ac annheg nad oes gennym yr hawl i fancio trwy gyfrwng ein dewis iaith.

§

Dafydd , Awst 1, 2011 11:07 am

Roeddwn i’n meddwl fod y banciau a gafodd ‘bail-out’ gan y treth-dalwr ee N Rock ac RBS yn gorfod cydymffurfio gyda gofynion unrhwy gorff gyhoeddus parthed y Gymraeg? Beth am ddechrau gyda’r rheiny?

§

Dafydd , Awst 1, 2011 11:09 am

Hmmm…. http://www.ukuncut.org.uk/targets/8

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.