Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cyhoeddi Cofnod Cymraeg cyntaf y Cynulliad ers 2010

Ionawr 18, 2012 12:20


Mae cofnod Cymraeg o drafodaethau llawn y Cynulliad wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf ers Gorffennaf 2010.

Ddoe, fe gyhoeddwyd Cofnodion y Trafodion yn gwbwl ddwyieithog am y tro cyntaf ers i Gomisiwn y Cynulliad benderfynu rhoi’r gorau i gyfieithu sylwadau Saesneg y Siambr i’r Gymraeg, er mwyn arbed arian.

Datgelodd Golwg 360 yn ystod wythnos Eisteddfod 2009 fod Comisiwn y Cynulliad, dan gadeiryddiaeth Dafydd Elis-Thomas, wedi penderfynu na fyddai’n rhaid cyfieithu Cofnod y Trafodion i’r Gymraeg o ganol 2010 ymlaen, er y byddai sylwadau Cymraeg ar lawr y Siambr yn dal i gael eu cyfieithu i’r Saesneg.

Ond ddoe, fe ddaeth y drefn honno i ben, gan ddychwelyd i’r drefn flaenorol o gyfieithu bob sylw sy’n cael ei wneud yn ystod y trafodaethau llawn yn Siambr y Cynulliad i’r ddwy iaith.

‘Beirniadaeth’

Cafodd y penderfyniad i atal y cyfieithu ei feirniadu’n llym gan Fwrdd yr Iaith a Chymdeithas yr Iaith, ac roedd  bron i 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb  yn galw ar y Cynulliad i ddychwelyd i gofnodion dwyieithog.

Ar y pryd, cyhuddwyd y Cynulliad o “dorri ei gynllun iaith ei hun,” gan Fwrdd yr Iaith, ond fe benderfynodd y Comisiwn sy’n gyfrifol am waith y Cynulliad fod arbedion o hyd at £250,000 i’w gwneud bob blwyddyn trwy atal y gwasanaeth.

Ond ym mis Tachwedd y llynedd fe gyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad y byddai’r gwaith o gyfieithu’r Cofnod yn ail-ddechrau o fis Ionawr eleni.

Bydd y cofnod yn cael ei gyfieithu drwy dechnoleg Google Translate o hyn ymlaen, gyda chyfieithwyr proffesiynol yn adolygu’r gwaith cyn ei gyhoeddi.

Yn ôl y Comisiwn, fe fydd hyn yn costio £110,000 y flwyddyn i’r Cynulliad, sef tua hanner y gost wreiddiol o dalu cyfieithwyr i wneud y gwaith i gyd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Benjiman , Ionawr 18, 2012 10:02 pm

Gyda google translate? lol

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Ionawr 20, 2012 11:26 am

Diolch i’r Arglwydd am hynny!

§| Nodi camddefnydd

Steffan Webb , Ionawr 29, 2012 12:00 pm

Beth yw polisi Golwg 360ynglyn a gosod lincs mewn erthyglau?

Un broblem gyda chyfieithiad trafodion y cynulliad oedd nad oedd llawer yn eu darllen.

Oni fyddai’n help pe bai Golwg wedi cynnwys linc yn yr erthyg hon er mwybn caniatau i’r rhai ohonom fasai wedi edrych ar y cofnod yn syth gael gwneud hynny yn rhwydd?

§| Nodi camddefnydd

Steffan Webb , Ionawr 29, 2012 12:14 pm

Basai linc yn help – dwi wedi treulio 10munud yn methu dod o hyd i unrhyw gofnod Cymraeg ar wefan y Cynuliad!

Ydych chi’n siwr bod fersiwn GYmraeg ar gael?

Os oes does dim synod bod neb yn darlen y peth os nad yw ar gael yn rhwydd iawn.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.