Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Pam dangos y Saesneg?’ meddai cantores Llais i Gymru

Ionawr 19, 2012 15:53, Diweddarwyd Ionawr 20, 2012 09:45


Mae cantores a oedd yn un o gystadleuwyr Llais i Gymru wedi ymateb i feirniadaeth gyhoeddus o’r rhaglen ac wedi gofyn, “Pam penderfynu dangos y Saesneg?” pan roedd wedi canu cân Gymraeg ar y rhaglen hefyd.

Mae’r gyfres ar S4C, lle mae cwmni recordio Decca yn chwilio am gantorion o Gymru i gynnig cytundeb recordio iddyn nhw, wedi’i beirniadu gan gyfranwyr ar Twitter a Golwg360.

Mae Casi Wyn o Wynedd sy’n fyfyrwraig yn Llundain yn dadlau nad oes dim o’i le â chysyniad y rhaglen gan gwmni Boomerang ond mae’n credu bod gormod o Saesneg ar y rhaglen.

Er iddi hi ganu alaw werin Gymraeg, penderfynodd S4C ddangos y darn ohoni’n canu cân Saesneg.

“Pam penderfynu dangos y Saesneg?”meddai. “I raddau, mae wedi cambortreadu sawl person ifanc o ganlyniad i benderfyniad S4C.”

Eisoes, wrth ymateb i gwynion bod gormod o Saesneg ar y rhaglen, fe ddywedodd S4C mewn datganiad i Golwg360: “Er mwyn rhoi cyfle i dalent o Gymru i ehangu’u gorwelion mae’n fantais cael cwmni mawr rhyngwladol yn rhan o’r broses.”

Meddai S4C wrth gylchgrawn Golwg: “Am resymau golygyddol, fe benderfynwyd dangos Casi Wyn yn perfformio rhan o gân Saesneg am ei bod hi’n gân yr oedd hi wedi ei chyfansoddi ei hunan. Wrth chwilio am Lais i Gymru, mae gan gwmni Decca ddiddordeb arbennig mewn perfformwyr sy’n cyfansoddi deunydd gwreiddiol a dyna pam y darlledwyd y perfformiad hwn.”

Wythnos diwethaf, fe ddywedod Dafydd Iwan wrth Golwg360 fod y gyfres yn rhoi’r argraff bod eisiau i gantorion Cymraeg fynd dros Glawdd Offa os ydyn nhw am lwyddo.

‘Trist iawn’

Ond yn ôl Casi Wyn mae pobol yn rhy barod i feirniadu Cymry ifanc sy’n troi eu golygon at Loegr.

“Mae’n drist iawn nad yw’r to hŷn yn ein hannog i fentro a gwthio’r ffiniau,” meddai’r fyfyrwraig Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mhrifysgol Llundain, Goldsmiths.

“Beth maen nhw’n ei wneud yw condemnio awydd rhai ohonon ni i fynd allan i ddysgu mwy, i brofi pethau gwahanol.”

Mae’n dweud ei bod yn cael y profiadau o ganu “set ddwyieithog” mewn tafarndai a chlybiau yn Llundain.

“Beth ydi hynny’n union? Ydi hynny’n ddiegwyddor hefyd? Nac ydi, mae hynny’n hyrwyddo’n niwylliant, fy iaith i yn Llundain! Does yna byth ganmol pobol ifanc. Y neges wastad ydi ‘arhoswch yma, defnyddiwch y cyfleusterau sydd gennych chi’. Dw i’n dal i ganu yn Gymraeg yn Llundain, achos mi fuasai’n annaturiol i mi beidio, yn amlwg.”

Darllenwch y stori ynghyd ag ymateb S4C yn llawn yn Golwg wythnos hon

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Ionawr 19, 2012 5:01 pm

“Mae cantores a oedd yn un o gystadleuwyr Llais i Gymru wedi ymateb i feirniadaeth gyhoeddus o’r rhaglen ac wedi gofyn, “Pam penderfynu dangos y Saesneg?” pan roedd wedi canu cân Gymraeg ar y rhaglen hefyd”.

Diddorol. Hoffwn glywed ymateb S4C i hyn?

§

Jones , Ionawr 19, 2012 5:42 pm

Mae’r rhaglen yma yn dangos lot o bethau syn wrong yn S4C ar y funud.

Dim really yn rhoi rhaglen maer gwylwyr eisiau (nai fod yn onesd o nin gweld y rhaglen yn eithaf diflas).
Eitha saesneg.
Trio cogio bod on rhywbeth mawr…. pan dio ddim.
Agwedd “show tunes” oherwydd maen neud ir sianel edrych yn “main stream”.

Ond dim dyna yw S4C. Mwy na BBC1 neu ITV o nin gweld hin sianel “cynnes” yn y dechra. Rhaglenni digon rhad, ond yn rhoi gwen ar eich gwyneb. Darlledu yn fyw o ryw gig (a pethan mynd yn anghywir!!). Dyna o nin hoffi am S4C, pobol odd yn mwynhau wneud rhaglenni dim ond oherwydd ei bod nhwn gymraeg. Mae hyn wedi newid. Mae o bron fel petai bod pobl sydd yno nawr yn eu defnyddio fel “leap frog” i fynd i bethau “mwy a gwell” megis y BBC. Cwmniau cynhyrchu yn defnyddio s4c i allu neidio i fewn i ryw fyd arall megi y marchnad gymraeg.

Doedd hyn ddim yn digwydd yn y gorffenol. Dwi bron yn teimlo, rhywsut bod calon S4C wedi cael eu rhwygo allan, dwnim pam. Dwin teimlo fy mod yn gorfod gorfodi fy hyn i edrych arno, a dim i matter o ddewis. Mae hyn yn hynod o drisd ar peth gwaethaf – mar math o bobl syn “defnyddio” s4c dal yn ymwneud ar cyfryngau, ac allaim gweld y sianel yn troi nol.

§

Mali , Ionawr 19, 2012 7:31 pm

Sylw yma wneud mi chwerthin “Beth maen nhw’n ei wneud yw condemnio awydd rhai ohonon ni i fynd allan i ddysgu mwy, i brofi pethau gwahanol.” Mmm, sori ond fain mor wahanol yw Llundain i Gaerdydd neu Abertawe, fersiwn eitha debyg ond ar raddfa fwy. Os fuasa fi eisiau profi pethau wahanol, fuaswn i mynd i America, neu Ffrainc, neu Siapan ayb…ond Llundain?

§

CGT , Ionawr 19, 2012 8:20 pm

Os oedd yr hogan yn fodlon canu yn Saesne, ddylai hi ddim cwyno. Petai hi ond wedi canu yn y Gymraeg , yna ni fyddai yna gan Saesneg i’w darlledu.
Fel hyn a fu S4Cheque erioed . Brits yn siarad Cymraeg ( neu ddim, yn amlach na pheidio)

§

Ifor Hughes , Ionawr 20, 2012 5:25 am

Hold on – pan wnes di ganu’n Saesneg de ? Siwr braidd taw ti Casi Wyn ddewisodd y caneuon ac ma bod yn ‘holier than thou’ nawr bach yn gut-wrenching.

§

irfon , Ionawr 20, 2012 9:17 am

I’w cymharu a Lundain mae Caerdydd ac Abertawe fel pentrefi bach yn y wlad. Ewadd, wyt ti wedi bod yn Llundain erioed Mali?

§

Gwyn, Cwm Taf , Ionawr 20, 2012 10:21 am

Bitshfest!! Dewch a “Reslo” yn ôl ar $brec weda i

§| Nodi camddefnydd

cris , Ionawr 21, 2012 9:50 pm

Dwi’n mwynhau’r rhaglen beth bynnag – a llawer o bobl arall hefyd yn ol y son.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.