Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Angen ailedrych ar y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu’

Ionawr 24, 2012 17:04


Simon Thomas
Mae angen ailedrych ar y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu fel pwnc ail iaith yn ein hysgolion. Dyna farn yr Aelod Cynulliad Simon Thomas.

Mae’n dweud nad yw’r system bresennol yn gweithio.

“Mae’r rhan fwyaf o blant Cymru yn gadael ysgol heb ddeall dim ar iaith gynhenid y wlad a dw i’n meddwl bod hynny’n siom.

“Dw i’n meddwl bod rhaid i’r blaid fod yn llawer mwy clir ynglyn a throi’r system addysg i fod yn un lle mae’r Gymraeg yn rhan o be mae plant yn dysgu mewn ysgolion yng Nghymru fel Mathemateg, neu Saesneg neu be bynnag, un o’r pynciau craidd hynny sydd yn hanfodol i wlad ddwyieithiog,” meddai.

Simon Thomas yw un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru ac mae’n credu ei bod hi’n bwysig fod plant a phobl ifanc yn medru rhywfaint ar y Gymraeg.

“Mae yna arbrofion diddorol megis yn Ysgol Treorci yn y Rhondda lle mae yna ymgais wedi cael ei wneud i sicrhau bod plant sydd ddim yn dewis astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg serch hynny yn cael eu trwytho i ddysgu’r Gymraeg fel iaith.

“A dw i’n meddwl y dylai hynny fod yn ffocws,  dros y genhedlaeth nesaf, i drio troi’r system addysg Gymraeg yn un sydd yn creu gwlad gwirioneddol ddwyieithiog.”

Er bod yn rhaid i ddisgyblion sydd yn dewis cael eu haddysg yn Saesneg gael rhywfaint o wersi Cymraeg nes eu bod nhw yn 16 oed, mae’r AC yn dweud nad oes digon o gefnogaeth ac adnoddau i ddysgu Cymraeg ail iaith.

“Mi roeddwn i’n lwcus. O’n i mewn ysgol Saesneg ac roedd gen i athro arbennig o dda a fe wnes i ddysgu’r Gymraeg yna. Ond dw i ond yn gallu meddwl am un bachgen arall o’r un ysgol a fi wnaeth llwyddo yr un fath. Dw i’n meddwl bod angen mwy na un neu ddau o’r genhedlaeth nesaf os ydyn ni am weld y Gymraeg yn ennill mwy o fri eto a mwy o le tu fewn i’r Gymru ddwyieithog,” meddai Simon Thomas.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John , Ionawr 24, 2012 5:24 pm

Es i ysgol Saesneg, dechreuais i ddysgu Cymraeg o ddifri ym mlwyddyn 10, a dwi bellach yn gwneud gradd yn y Gymraeg gyda’r ffrwd iaith Gyntaf, gan fy oeddwn i’n rhugl cyn dod i’r coleg ym mis medi. Er hynny, mae fy mhrofiad i yn adlais o brofiad Simon Thomas. alla i ddim meddwl am ddisgybl arall wnaeth lwyddo fel y gwnes i , er fod yna rai sydd bellach yn siarad Cymraeg a adawodd yr ysgol cyn fi. Dyw e ddim yn ddrwg i gyd , mae rhai ohonon ni’n dysgu Cynraeg gydag awch ac yn llwyddo i ddysgu a wedyn defnyddio mamiaith Cymru. Y drwg yn y caws yw’r byd tu allan. Dw i’n byw yng nghymoedd y de, ac y mae’n rhaid mynd mas a chwilio am y byd Cymraeg a gwneud ymdrech i allu byw trwy gyfrwg y Gymraeg. O achos mai Saesneg yw iaith gymunedol y de nid yw rhai disgyblion yn gweld y pwynt. Fel cyn ddisgybl a rhywun sydd wedi dysgu mewn Cymraeg mewn ysgol Saesneg yn y de-ddwyrain, dywedwn i mai’r peth pwysicaf yw pwysleisio bod yna fyd Cymraeg tu allan i’w cymunedau bach a mai nid pawb sydd yn siarad Saesneg yng Nghymru ac yn ail bod yna fanteision enfawr o ddysgu Cymraeg a’i defnyddio. A nid dweud hwnna fel cliche ydw i , dysgais i hwnna yn gyflym mas o brofiad!!

§

Mali , Ionawr 24, 2012 5:33 pm

Cytuno a Simon, es i Rhuthun diweddar, a gofynnais ddigon yn cwrtais, am paned o de. Oedd y ferch ifanc tu ol y cownter yn edrych fel fel llo arnai. Mae’na rhywbeth mawr o’i le os yw’r ferch yna wedi gael gwersi Cymraeg tan oedd hi’n 16 oed, a methu deallt rhywbeth mor syml a ‘Paned o de.’ Mae’n hen bryd gwella Cymraeg ail-iaith yn ei system addysg.

§

Ben , Ionawr 24, 2012 5:43 pm

Edrycher ar yr athrawon hefyd- nid allai fy rhai i yn yr ysgoil ddysgu mwnci i fwyta banana, mae angen athrawon sydd yn gallu ysbrydoli a gwneud y Gymraeg yn hwyl. Mae angen am athrawon sydd yn credu bod nhw am ddau beth 1. I gryfhau’r Gymraeg a chodi’r nifer o siaradwyr a chodi’i defnydd 2. i wella cyfleon ei ddisgyblion trwy eu haddysgu. Mae gormod o athrawon yn gweld y Gymraeg fel pwnc gorfodol, a bod eu swyddi hwy’n swyddi a dim byd arall. Dylai fod arnynt gyfrifoldeb am wneud i’r Gymraeg yn berthnasol a chreu siaradwyr newydd. Nid yw’r Gymraeg yn iaith fel Almaeneg neu Sbaeneg sydd yn cael ei dysgu i ddysgblion ysgol allu cyfathrebu gyda’r byd, mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu i warchod ei dyfodol hefyd a dylai athrawon sylweddoli hynny

§| Nodi camddefnydd

Andrew , Ionawr 24, 2012 6:58 pm

Cytuno ‘da’r pwynt mai’r byd y tu allan i’r ysgol yw’r broblem. Efallai bydd y broses yn cymryd amser hir, dros sawl cenhedlaeth. Dyw’r plant sy’n dysgu Cymraeg nawr ddim yn ei siarad gartref oherwydd fod eu rhieni nhw ddim yn medru’r iaith. Efallai (gobeithio) pan fydd eu plant nhw yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, bydd na beth Cymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd hefyd.

§| Nodi camddefnydd

Steffan Llysdinam , Ionawr 24, 2012 11:54 pm

1. Dydy dysgu Cymraeg ail iaith yn gweithio i’r mwyafrif helaeth
2. Dydy dysgu Cymraeg fel mamiaith yn gweithio i lawer
3. Dydy dysgu unrhywbeth yn gweithio i lawer o’r mwyafrif, y mwyafrif o’r amser.
Dyna ysgol. Heb y byd tu fas, heb rieni, heb reswm – mae popeth yn methu yno. Nid jyst Cymraeg ail iaith.
Oes mae angen athrawon i ysbrydoli plant ond pwy sy’n ysbrydoli nhw? Pwy sy yn eu harwain?
Mae bod yn athro a disgwyl gweledigaeth heddiw fel disgwyl dyn dall dilyn gwynt hen rech er mwyn ffeindio’r ty bach.
Beth am hyfforddi nhw’n iawn ac wedyn gadael iddyn nhw fod falle?

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ionawr 25, 2012 7:09 am

Bu twf aruthrol yn nifer y disgyblion a fu’n dilyn addysg uwchradd Cymraeg, a bu’r ysgolion yn llwyddiannus iawn (Er fod y cyhoeddiadau ‘bandio’ diweddar yn awgrymu i bethau wastadu rhyw cymaint ) . Yn sgil y twf yma, mae’r hufen wedi gwasgaru’n denau iawn o ran denu athrawon i’r ysgolion sydd weddill. Pwy , er enghraifft , yn ei iawn bwyll sydd eisiau mynd i ddysgu Cymraeg yn Connah’s Quay ? . Mae nifer o brifathrawon sy’n gweld y Gymraeg fel niwsans yn hytrach na phwnc pwysig .
Yn ogystal, mae ieithoedd modern tramor yn cymylu’r dyfroedd .
Sut mae disgwyl i ddisgyblion sy’n wan mewn Cymraeg ddygymod gyda Ffrangeg a/neu Almaeneg ar ben hynny ? .
Mae gormod o bynciau ar y cwricwlwm cynradd ac uwchradd , a prin yw’r rhai sy’n cael yr amser i’w dysgu’n drwyadl. Yn sicr , gyda’r obsesiwn annelwig gyda ‘sgiliau’, mae’n anodd gweld lle bydd gwellhad.

§| Nodi camddefnydd

Jones , Ionawr 25, 2012 10:35 am

Cytuno, mae’n cael ei ddysgu yn debyg i Ffrangeg. Ond mae gan y plant llawer mwy o brofiadau ac cyfleon i ddefnyddio’r iaith. Felly rhaid i’r syllabus newid a bod llawer, llawer mwy anodd. Dwi’n meddwl bod Katherine Jenkins hefo lefel A mewn Cymraeg ail iaith, ond rhaid dweud dwi rioed wedi clywed hi’n siarad.

OND, mae yna broblem mwy anodd yn addysg yng Nghymru. Oes mae genym ni ysgolion “cymraeg” lawr yn y de. Ond beth yw iaith y buarth?
Nes mae plant Ysgol Glantaf yn defnyddio cymraeg ar y bys neu yn dref – methiant llwyr yw’r syniad yma o “ysgolion cymraeg”. Beth yw’r ateb i hyn? Does gen i ddim clem!

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Ionawr 26, 2012 7:56 pm

Dyfalbarhad yw’r ateb, ni fyddwn i’n cytuno fod ysgolion Cymraeg yn ‘fethiant llwyr’, mae Simon Thomas yn enghraifft o’u llwyddiant. Er nad ydynt yn siarad Cymraeg ar y bws a’r buarth, o leiaf maent yn MEDRU siarad Cymraeg ac mae hyn yn well na dim. Mae angen gwneud y Gymraeg yn werth ei dysgu, o ran cael swyddi ac ati, a gall y Cynulliad chwarae rhan yn hyn. Mae’n rhaid bod yn gadarnhaol, camau bychain……

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.