Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Addo tocyn parcio dwyieithog’ i yrrwr ar ôl ffrae dros ddirwy

Ionawr 26, 2012 11:09, Diweddarwyd am 11:10



Mae cwmni o Lundain wedi addo anfon tocyn parcio dwyieithog at ddyn yng Ngwynedd, ar ôl iddo wrthod talu dirwy o £65 am ei bod yn  uniaith Saesneg.

Yr wythnos ddiwetha’ fe gafodd Noel Jones o Benrhyndeudraeth sylw ym mhapurau newydd y Daily Mail, y Daily Telegraph a’r Daily Star am ei fod yn mynnu cael tocyn parcio yn y Gymraeg.

Fe gafodd y gyrrwr lorïau docyn parcio uniaith Saesneg gan gwmni Flashpark ar Ragfyr 15, am barcio un o lorïau Cyngor Gwynedd ym maes parcio Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth, sy’n eiddo preifat.

Ar ôl sylw cenedlaethol a Phrydeinig, mae’r cwmni wedi cadarnhau wrth Golwg eu bod yn bwriadu anfon tocyn yn Gymraeg a Saesneg at Noel Jones -  fel “arwydd o ewyllys da.”

‘Ewyllys da’

“Fel arwydd o ewyllys da, rydym wedi cytuno i ddarparu cyfieithiad,” meddai Costas Constantino o gwmni Flashpark.

Ond ni fydd y cwmni yn anfon tocynnau dwyieithog at bawb yng Nghymru yn y dyfodol – dim ond i’r rhai sy’n gofyn am docyn dwyieithog, meddai Costas Constantino.

“Os ga’ i [docyn parcio] yn Gymraeg, mi dala’ i o,” meddai Noel Jones, sy’n byw ym Mhenrhyndeudraeth ers dros 30 o flynyddoedd ac yn siomedig fod pwyllgor y neuadd wedi defnyddio cwmni o Lundain i godi dirwyon am barcio yno.

Yn ôl Ysgrifennydd Pwyllgor Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth – mae pwyllgor y neuadd wedi chwilio am gwmni parcio Cymraeg, ond doedd dim un ar gael.

Darllenwch y stori’n llawn yng Nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Adam Jones , Ionawr 26, 2012 12:43 pm

Dwli yw’r peth gofyn am docyn, ond yn portreadu gwasanaeth eilradd i Gymry Cymraeg ac yn profi nad yw’r cwmni yn deall Cymru na chwaith dwyieithrwydd.

Hwn yn enghraifft berffaith arall o pam yr oedd cynnwys busnesau felly o fewn mesur iaith bondigrybwyll Alun Ffred.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.