Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Tafodieithoedd Gaeleg i ddiflannu

Chwefror 12, 2012 08:56


Caeredin
Mae academydd ym Mhrifysgol Caeredin wedi rhybuddio bod peryg i bron i’r holl dafodieithoedd Gaeleg ddiflannu yn y dyfodol.

Mae Dr Will Lamb yn awgrymu mai dim ond Gaeleg Lewis a De Uist fydd yn goroesi.

Dywedodd mai un rheswm am hyn oedd bod y ddwy dafodiaith yma yn amlwg mewn addysg trwy gyfrwng y Gaeleg.

Roedd 25% o athrawon yn  siarad tafodiaith Lewis a 17.5% yn siarad Gaeleg De Uist, meddai. Roedd dipyn llai o athrawon yn siarad tafodieithoedd Skye, Gogledd Uist a Barra.

“Heb newid yr hyn sy’n digwydd yn y cymunedau hyn, bydd mwyafrif y tafodieithoedd Gaeleg wedi diflannu yn ystod y cenedlaethau nesa,” meddai Dr Lamb wrth BBC Alba.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.