Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Y Gymraeg yn marw fel iaith gymunedol?

Chwefror 12, 2012 17:34


Meirion Prys Jones
Mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod y Gymraeg yn marw fel iaith gymunedol.

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Politics BBC Cymru dywedodd Meirion Prys Jones bod y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu, ond bod gostyngiad wedi bod yn y nifer sy’n ei defnyddio.

“Rwy’n credu fod yr iaith yn tyfu mewn rhai ffyrdd, ond fel iaith gymunedol, mae’n marw,”meddai.

Ac fe ychwanegodd fod rhaid cael buddsoddiad o ran syniadau ac arloesi er mwyn sicrhau chwarae teg i’r iaith.

Mae Meirion Prys Jones yn pryderu pwy fydd yn arwain y gwaith creadigol ynglŷn â’r iaith ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ddiflannu ym mis Ebrill eleni.

“Pwy o fewn y cylchoedd gwleidyddol a’r gwasanaeth sifil fydd yn dweud yn ymarferol bod angen i ni wneud rhywbeth am yr iaith Gymraeg, mae mewn argyfwng, sut ydym am ei hyrwyddo?

“Gallwch gael gymaint o ddeddfwriaeth ag y dymunwch, gallwch gael gymaint o bolisïau ag y dymunwch, ond oni bai eich bod yn mynd allan ymysg y bobl a’u darbwyllo bod yr iaith yn ddefnyddiol iddyn nhw, yna does dim gobaith yn fy marn i.”

Meddai llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru, “Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o weld y Gymraeg yn ffynnu.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ei strategaeth iaith Gymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi, deg mlynedd ar ôl y strategaeth bresennol, ‘Iaith Pawb.’

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd Wyn Williams , Chwefror 12, 2012 5:44 pm

Bydden i yn tueddu i gytuno gyda’r sylwadau; o’r holl bobl ifanc sy’n astudio trwy gyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn yr ysgolion a’r prifysgol, sawl un ohonynt sydd yn gweithio ynrhywle sy’n eu caniatai i ddefnyddio’r
Gymraeg o ddydd i ddydd wedi iddynt dod i ben ag astudio?

§

Mali , Chwefror 12, 2012 6:23 pm

Ond lle mae’r Bwrdd wedi bod am y degawd diwethaf? Trueni ni ddaru nhw datgan hyn yn 2001 pan roedd Cymuned yn codi’r union pwynt yma.

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Chwefror 12, 2012 7:36 pm

Beth am i’r sector gyhoeddus ddatgan eu bod, ymhen deng mlynedd, ddim am gyflogi unrhyw un sydd ddim yn ddwyieithog? Beth am i’n hysgolion ddysgu’r Gymraeg (o ddifrif) i’n plant i gyd?

§

Aled Evans , Chwefror 12, 2012 7:37 pm

Cytuno gyda Mali – lle mae Bwrdd yr Iaith wedi bod am y ddegawd diwethaf?
Yn sicr wedi i mi gael y profiad o weithio yn y gwasanaeth sifil , yr argraff sydd gen i yw nid yno y bydd yr iaith yn ennill tir a hynny am y rheswm syml nad yw unigiolion yn dewis defnyddio – yr iaith yno . Does dim pwynt perswadio oedolion i siarad Cymraeg , lan i bob unigolion ydyw yn y diwedd .Beth mae’r Bwrdd yr Iaith yn ei wneud ynghylch helpu oedolion diwaith sy’n siarad Cymraeg yn y de Ddwyrain yma i fynd nol mewn i waith cyflogedig?

§

Efrogwr , Chwefror 12, 2012 8:04 pm

Hwb mawr fyddai i lot mwy o sefydliadau weithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg fel y gwna Cyngor Sir Gwynedd. Dyna greu cynefin lle bydd yr iaith yn ffynnu a dangos mantais go iawn yn y farchnad waith i siarad yr iaith.

§| Nodi camddefnydd

Lavinia , Chwefror 12, 2012 11:09 pm

Y gwir amdani yw, mae’r iaith ar ei ffordd i fod yn iaith ‘dreftadaeth’ fel yr Wyddeleg. Mae nifer o ffactorau wedi achosi hyn:

Marwolaeth crefydd yn yr hen ‘gadarnleoedd’. Y capel a’r eglwys oedd yn cadw’r iaith i fynd am ganrifoedd.
Pobl ifanc yn gadael y gogledd a’r gorllewin ac yn defnyddio mwy o’r Saesneg yn y gweithle.
Diogi ymhlith siaradwyr iaith gyntaf – pobl yn defnyddio bratiaith gyfleus a mwy o eiriau a chystrawen Saesneg yn eu hiaith.

Dydw i ddim eisiau swnio’n negyddol – ond fel athro Cymraeg dan hyfforddiant, gallaf gadarnhau bod llai na 10 y cant o’r plant yn yr ysgol lle dwi’n addysgu yn defnyddio’r Gymraeg o gwbl. A Chymraeg sâl a diog ofnadwy yw hi.

Dydw i ddim yn gweld sut all yr iaith oroesi y tu hwnt i ganol y ganrif os ydw i’n onest.

§| Nodi camddefnydd

Gwyn, Cwm Taf , Chwefror 13, 2012 10:11 am

Lol botes i Fwrdd yr Iaith – cwango arall a swyddi bras i’r detholedig rai sy’n monitro “cynlluniau iaith” ar bapur yn unig, da i ddiawl o ddim yn y byd go iawn.

§| Nodi camddefnydd

Aneirin , Chwefror 13, 2012 11:25 am

Ie, lle oedd y Bwrdd ddegawd yn ôl … cuddio tu ôl y soffa rhag pechu’r Blaid Lafur a Naz Malik!

Codi pais ar ôl piso.

§| Nodi camddefnydd

Neilyn , Chwefror 13, 2012 12:00 pm

Does na ddim byd newydd yn y pennawd yma, a mwy na thebyg ma na lai o ddefnydd o’r iaith yn y gogledd-orllewin a’r gorllewin yn ‘gymdeithasol’ nag oedd yna 10 mlynedd yn ol, am resymau da ni i gyd yn gyfarwydd a nhw. Felly, mae’n rhaid dyfalbarhau a herio’r drefn unwaith eto! A peido a cholli golwg ar y faith mai cymuned yw Cymru hefyd, ac yng Nhymru, mae’r iaith yn gyffredinol yn cryfhau – felly dyfalbarhau mewn ffydd yw’r nod. Darllenwch am yr arolwg a wnaed ym Mis Ionawr ar y wefan newyddion ‘arall’ – newyddion calonogol iawn!?

§| Nodi camddefnydd

Crebwyll , Chwefror 13, 2012 12:31 pm

‘…yng Nghymru, mae’r iaith yn gyffredinol yn cryfhau – felly dyfalbarhau mewn ffydd yw’r nod.’?

Mae medru gwrando’r annogaeth i ‘ddyfalbarhau mewn ffydd’ yn dibynnu, fyddwn i’n ddweud, ar ein dealltwriaeth a’n diffiniad ni o beth yw ‘iaith…yn cryfhau’.

§| Nodi camddefnydd

Jason Morgan , Chwefror 13, 2012 12:35 pm

Cytuno efo Mali yma. Sylwadau call ydyn nhw ond be ddiawl mae’r Bwrdd wedi bod dros y degawd diwethaf pan mae’r iaith wedi cilio’n fwy nag erioed? Yn ddistaw fodlon. Mi fydd yr iaith yn talu’n ddrud am fundandod y Bwrdd.

§| Nodi camddefnydd

Colyn , Chwefror 13, 2012 1:18 pm

Y broblem yw nad Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd gennym ond Bwrdd y Ddwy Iaith.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 13, 2012 2:32 pm

Cytuno Efrogwr 100% – angen gwneud beth ma Cyngor Gwynedd yn ei wneud y ffeit fawr nesa – dechre gyda Chaerfyrddin, Ceredigion a throsglwyddo rheolaeth dros Fon i Gyngor Gwynedd

§| Nodi camddefnydd

Al , Chwefror 13, 2012 3:54 pm

Mae sylwadau Meirion P J yn fy nghythruddo yn llwyr. Trwy gydol fy mywyd rwyf wedi cael fy magu ac wedi byw fy mywyd trwy’r Gymraeg. Ar hyn o bryd mae fy mhlant yn cael eu meithrin a’u codi trwy’r iaith Gymraeg. Mae fy nheulu yn Gymry – Y Gymraeg sy’n gynhenid i ni a’r iaith sydd wedi ac sydd yn diffinio ein bywydau. Ni allaf dychmygu unrhyw sefyllfa ieithyddol arall i ni fel teulu. Mae ‘proffwydoliaeth gwae’ MPJ yn fy nigalonni ac fel petai’n darogan mor ddiwerth yw byw fy mywyd i a fy nheulu trwy’r Gymraeg. NI ALL YR IAITH FARW OS YW POBL YN EI DEFNYDDIO HI. Peth allweddol arall yw sicrhau swyddi ledled Cymru trwy gyfrwng yr iaith yn lle canoli popeth yng Nghaerdydd. Rhowch pencadlysoedd cwmniau a sefydliadau pwysig trwy Gymru i sicrhau bod swyddi i siaradwyr Cymraeg yn lleol yn hytrach na sugno Cymry i’n Prifddinas.

§| Nodi camddefnydd

Neilyn , Chwefror 13, 2012 4:52 pm

Yn union Al. Defnyddio’r iaith sydd yn holl bwysig, ac os na fydd yr iaith mor gryf am rhyw ychydig o ddegawadau cyn atgyfnerthu fel iaith ‘gymunedol’ yna mi fydd hi’n gryfach drwy Gymru gyfan fel iaith ‘gymdeithasol’, boed hynny oddi fewn i’r teulu, rhwng ffrindia, yn y dafarn, ar y teledu/radio, yn y theatr, yn y gwiethle, ar y we ayyb. Mi ddaw yr iaith yn ol yn y pendraw fel iaith ‘gymunedol’ dim ond i bobl fynnu ei defnyddio cyn gymaint a phosib – peer pressure!

§

Crebwyll , Chwefror 13, 2012 8:45 pm

Pob parch Neilyn ond dwi ddim yn meddwl dy fod ti’n deall sut mae cynaliadwydd iaith yn gweithio. Does dim ‘peer pressure’ pan mae iaith yn lleiafrifol.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Chwefror 14, 2012 8:54 am

Mae’n rhaid i’r iaith ddod yn gwfrwng gwaith yn yn sector gyhoeddus yn Sir Gar, Ceredigion, a Mon.

§| Nodi camddefnydd

Lembo Salw , Chwefror 15, 2012 4:10 pm

Cytuno taw rhoi pwyslais ar y Gymraeg yn y gweithle yw’r peth pwysicaf nawr er mwyn datblygu sgiliau sydd heb eu datblygu’n llawn yn yr ysgol na’r gymuned ac er mwyn rhoi rheswm go iawn i bobol i ddysgu’r iaith a sicrhau bod eu plant yn dysgu’r iaith. A Cyngor Sir Gwynedd yw’r sefydliad y dylai sefydliadau eraill ei efelychu… yn cynnwys Llywodraeth Cymru yn y tymor hir iawn.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.