Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



CyI yn ymateb i feirniadaeth nad ydy’n ‘berthnasol’ bellach

Chwefror 13, 2012 10:49, Diweddarwyd am 11:38


Mae Cymdedithas yr Iaith wedi ymateb i feirniadaeth academydd blaenllaw sy’n dweud nad yw eu dulliau ymgyrchu yn berthnasol bellach.

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones mae angen i Gymdeithas yr Iaith newid ac esblygu, ac ers sefydlu’r Cynulliad mae Cymdeithas wedi bod yn llai perthnasol. Mae’n dweud nad oes neb yn gweithio’n llawn amser i lobio’r Senedd, ac mai methiant Cymdeithas yr Iaith ydy hynny.

Ond wrth ymateb i’r sylwadau am yr angen i fudiadau Cymraeg ganolbwyntio ar lobio, dywedodd cyn-gadeirydd y Gymdeithas Menna Machreth:

“Rwy’n gwybod bod rhai wedi bod yn dadlau hyn ers blynyddoedd bellach. Tra roeddwn i’n gadeirydd, roeddwn i’n falch o gydweithio gyda nifer o bobl yn ymgyrch y Gymdeithas i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg.

“Fe ellid dadlau bod y Gymdeithas yn un o’r mudiadau sydd wedi ymateb orau i ddatganoli. Fe lwyddom i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg trwy lobio cyson dros Fesur y Gymraeg, y darn o ddeddfwriaeth fwyaf ers i’r Cynulliad ennill pwerau deddfu. Mae sefydlu’r Coleg Cymraeg hefyd yn un o’n llwyddiannau mawr.

“Rydyn ni hefyd yn falch i weld Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, sydd yn fudiad lobio cyfansoddiadol, yn mynd o nerth i nerth yn ddiweddar. Mae’r Gymdeithas wedi buddsoddi llawer o amser ac egni yn cynorthwyo’r grŵp ymbarél newydd. A hoffem eu llongyfarch ar sefydlu Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg yn y Cynulliad eleni.”

Bygythiad i gymunedau Cymraeg

Yn y cyfamser mae Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu cynnal  taith o gwmpas Cymru i dynnu sylw at y bygythiad i gymunedau Cymraeg.

Fe fydd ymgyrchwyr yn teithio o gwmpas y wlad ar daith  i godi ymwybyddiaeth o’r her i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol.

Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg – gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001, ac dywed y mudiad eu bod yn mynd i roi prif ffocws eu gwaith ar wyrdroi’r cwymp hynny.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Hoffwn ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith ac awgrymu sut a lle y dylen ni ymgyrchu.

“Bydd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau’r Gymdeithas dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf, ond hefyd i dynnu sylw at yr her sydd yn wynebu’r iaith ar lefel gymunedol.”

“Rydym am ei gweld fel iaith dydd i ddydd ein cymunedau ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i bawb – o’n cynghorau cymuned reit lan i’r Cynulliad – sylweddoli bod angen trawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau.”

Bydd y daith yn dechrau ym mis Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri.

Gallwch ddarllen darn blog arbennig gan Bethan Williams, Cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yma.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Huw , Chwefror 13, 2012 4:30 pm

Deja Vu go iawn – Gallai addo ichi waeth ‘sylwebyddion pwysig’ dod allan efo’r un fath o beth – bron gair am air – 25 mlynedd nol pan roedd sylw i ben-blwydd 25 CyIG / Araith Saunders Liews

Dwi’n cofio’n iawn eu catchphrase pryd hynny oedd bod y Gymdeithas wedi “Chwythu ei phlwg” a bod hi’n perthyn i gyfnod a fu a bod dim pwrpas neu ddyfodol fel mudiad.

Er bod CyIG yn torri bol yn trio cael diddordeb y cyfryngau yn ein hymgyrchoedd ‘dydy dan ni ddim llwydo cael sylw i rhan mwy o gwaith. Os mae am feirniadu CyIG – dyma’r maes i’w trafod. Mae ‘na ddadlau mawr o fewn CyIG sut gorau i’w fynd ati efo niferoedd bach ac amser prin.

… a’r busnes yma mae Richard Wyn yn trio dweud bod y mudiad dim yn lobio yn y cynulliad? Sôn am allan o gysylltiad go iawn! Wnes i ddod ‘nôl i fod yn Aelod o CyIG cwpl o flynyddoedd nol ac un o’r pethe wnaeth fy mhenderfynu oedd gweld bod gan CyIG hysbysfwrdd mawr drud ym Mae Caerdydd efo llun Rhodri Morgan arno fel rhan o’r ymgyrch Deddf Iaith. Roedd llwyth o demos, dirprwyon ac hyd yn oed ddeiseb efo 10,000 enw arno wedi cyflwyno i’r ar risiau’r Cynulliad i aelodau’r 4 prif blaid. Enillon ni’r Ddeddf Iaith.. trwy waith lobio’n bennaf

Pobl y Sefydliad Cymraeg fel Proff. Richard Wyn wrth eu bodd efo brwydr yr iaith fel nostaljia ond chael hi’n anodd iawn i ddygymod a’r bod y Gymraeg mewn peryg a bod angen gwaith caled a lot o chwys i wneud gwaith go iawn.. nid academyddion yn eistedd yn eu twr ifori yn neud dim ond beirniadu.

I’r gad!

§| Nodi camddefnydd

Heledd , Chwefror 13, 2012 7:42 pm

Pryd ddaru lobio esgor ar newid go iawn? Yng nghyd destyn Cymru neu thu hwnt? Mae hanes yn dangos tro ar ol tro mai gweithredu uniongyrchol a di drais ar raddfa fawr ydi be sy’n cael canlyniadau.. a dydi o ddim yn cael ei gyfyngu i ‘elit’ o lobiwyr proffesiynol, yn wir parchuson cymdeithas ydi’r rhai sydd fwaf cyndyn cymryd rhan mewn ymgyrchu yn y modd yma yn amlach na dim!
Mae hyn yn fy nhiclo i gan mod i yn dymuno i cymdeithas lobio LLAI dwi’n ei weld fel wast o amser a mae amser prin gwirfoddolwyr a swyddogion yn mynd ar lobio pan gallent fod yn gweithio gyda cymunedau i drefnu ymgyrchoedd, gwithredu a cymryd rhan mewn gwleidydiaeth go iawn, dim gwleidyddiaeth llyfu tin gwleidyddion pwysig… gwithredu gafodd y dedf iaith 93, arwyddion dwyiaethog a s4c a diffyg gweithredu ar raddfa dorfol gan bobl cymru ydi pam oedd y mesur iaith diweddar mor wan a s4c cael ei adael i’r toriadau ei chwalu… a dydi dim gwerth beirniadu cymdeithas yr iaith, gofynwch cyn barnu be ydych chi yn ei wneud? Helpwch cymdeithas yn hyrach na collfarnu hi am be mai’n trio ei wneud gyda’i adnodda cyfyngedig!!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.