Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cymru’n colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn

Chwefror 14, 2012 11:44



Mae Cymru’n colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn, yn ôl adroddiad newydd gan Fwrdd yr Iaith.

Yn ôl yr adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, mae nifer y bobol rhugl eu Cymraeg sy’n marw bob blwyddyn a nifer y mewnfudwyr di-Gymraeg i Gymru yn cyfrannu’n fawr at ostwng nifer siaradwyr Cymraeg Cymru – er bod poblogaeth Cymru yn cynyddu o hyd.

Mae’r adroddiad yn nodi bod 6,500 o siaradwyr Cymraeg yn marw’n flynyddol, tra bod 5,200 yn symud i ffwrdd.

Mae’r gostyngiad hwn, medd yr adroddiad, yn gwneud tolc mwy yn nifer y siaradwyr Cymraeg sydd ar ôl yng Nghymru nag y gall nifer y plant ac oedolion sy’n dysgu’r iaith ei lenwi.

Newidiadau demograffig

Mae’r Bwrdd yn amcangyfrif bod y nifer o bobol sydd bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl wedi gostwng i 300,000 erbyn hyn. Mae hyn o’i gymharu â 457,000 o bobol oedd yn dweud eu bod yn gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn ôl yng Nghyfrifiad 2001.

Mae Hywel Jones yn dweud fod newidiadau demograffig yn chwarae rhan fawr yn nifer y boblogaeth sydd bellach yn gallu siarad Cymraeg, gan gynnwys nifer y genedigaethau a’r marwolaethau, yr ymfudo a’r mewnfudo, yn ogystal â thebygolrwydd siaradwyr Cymraeg i gwrdd a chymar Cymraeg – er mwyn magu cenhedlaeth newydd o Gymry Cymraeg.

Roedd Cyfrifiad 2001 yn dangos bod 20% o boblogaeth Cymru wedi eu geni yn Lloegr. Mae’r adroddiad heddiw yn rhagweld bod y ffigwr bellach ar gynnydd.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr yn parhau’n ganolog i gynnal y Gymraeg, gyda siaradwyr y bedair sir yn unig yn cyfrannu tuag at 56% o holl siaradwyr Cymraeg Cymru.

Disgwyl y cyfrifiad

Daw’r arolwg fisoedd yn unig cyn cyhoeddi’r Cyfrifiad diweddaraf ar gyfer 2011. Ond mae awdur adroddiad Bwrdd yr Iaith, Hywel Jones, yn dweud y bydd eu hadroddiad yn gefndir defnyddiol i ganlyniadau’r Cyfrifiad hwnnw.

“Bydd Cyfrifiad 2011 yn rhoi darlun manylach, yn enwedig o ran daearyddiaeth y sefyllfa, ond ni ddylai ei ganlyniadau ddod fel syndod,” meddai Hywel Jones.

“Nid yw canlyniadau arolygon diweddar, na’r amcanestyniadau a gyfrifwyd, yn awgrymu y gwelir cynnydd sylweddol yn y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn y dyfodol agos.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


William Wales , Chwefror 14, 2012 12:29 pm

… a sawl mil sy’n cael eu colli bob blwyddyn wrth i fyfyrwyr astudio yn Lloegr? Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo allfudo ein pobl ifainc!

Hollol digalon.

§

Jones , Chwefror 14, 2012 12:56 pm

Cytuno WW,
Diom yn neud synwyr o ran arian, synwyr o ran economi, synwyr o ran cadw plant ifanc yng Nghymru.

Roedd polisi 2007 llawer yn well: ffioedd yng Nghymru yn 1/3 o rai Loegr- a dyna syn digwydd yn yr Alban. Yn amlwg, os nad yw’r cwrs ar gael yng Nghymru, dylai ambell un gael mynd i Loegr i astudio.

Fe fysa hyn yn safio arian. Cadw y myfyrwyr yng Nghymru – ac efallai cael ychydig yn fwy o bobl i astudio yn rhanol trwy’r Gymraeg.

§| Nodi camddefnydd

Al , Chwefror 14, 2012 1:25 pm

Mae sylwadau Meirion P J yn fy nghythruddo yn llwyr. Trwy gydol fy mywyd rwyf wedi cael fy magu ac wedi byw fy mywyd trwy’r Gymraeg. Ar hyn o bryd mae fy mhlant yn cael eu meithrin a’u codi trwy’r iaith Gymraeg. Mae fy nheulu yn Gymry – Y Gymraeg sy’n gynhenid i ni a’r iaith sydd wedi ac sydd yn diffinio ein bywydau. Ni allaf dychmygu unrhyw sefyllfa ieithyddol arall i ni fel teulu. Mae ‘proffwydoliaeth gwae’ MPJ yn fy nigalonni ac fel petai’n darogan mor ddiwerth yw byw fy mywyd i a fy nheulu trwy’r Gymraeg. NI ALL YR IAITH FARW OS YW POBL YN EI DEFNYDDIO HI. Peth allweddol arall yw sicrhau swyddi ledled Cymru trwy gyfrwng yr iaith yn lle canoli popeth yng Nghaerdydd. Rhowch pencadlysoedd cwmniau a sefydliadau pwysig trwy Gymru i sicrhau bod swyddi i siaradwyr Cymraeg yn lleol yn hytrach na sugno Cymry i’n Prifddinas.

§

Eirion Rhys , Chwefror 14, 2012 1:54 pm

Cynnydd o ryw 2% dw i wedi’i glywed ar gyfer Cyfrifiad 2011, hynny yw, cynnydd o 21% i 23%. Os yw hynny’n wir, oni ddylen ni ddathlu ar ol gweld y Gymraeg yn dirywio am ganrif rhwng 1891 a 1991? Bydd yn golygu bod y ganran yn uwch nag roedd hi nol yn 1971.

§

twrch , Chwefror 14, 2012 1:59 pm

Cytuno’n llwyr a AI. Proffwydo gwae yw’r swydd hawsaf yng Nghymru.

Wedi’r cyfan dyma oedd neges Gruffydd ap Yr Ynad Goch, ac yn wir dani’n dal yma 700 mlynedd yn ddiweddarach a newydd enill mesur o hunanreolaeth. Mae’r mewnlifiad mewn i Gymru wedi bod yn anferthol ers dros 200 mlynedd nawr ac mae’r gymraeg yn ffynnu yn yr ysgolion. Fuodd Cymru erioed yn wlad uniaith gymraeg, mae’r saesneg wedi bod yn gryf yng Nghymru ers dros wyth can mlynedd, dani’n arbennigwyr ar fyw mewn gwlad ddwyieithog.

Cymon Broffwydi chydig o light relief osgyndda

§| Nodi camddefnydd

Russ , Chwefror 14, 2012 3:00 pm

Sdim pwynt cwyno am y sefyllfa os ni ddum yn:
a – defnyddiwch ein iaith bob amser lle mae hi’n ymarferol
b – pasiwch ein iaith ymlaen at y genhedlaeth nesaf
c – hyrwyddwch ein iaith a’i manteision ar bob cyfle
d – pleidleisiwch tro nesaf dros blaid sy’n wir moyn hyrwyddo ein iaith

§

Sion , Chwefror 14, 2012 3:20 pm

Sai’n gwbod os yw hynny’n wir neu beidio Eirion (canran siaradwyr yn dod nol lan i 23%), ond beth sy’n amlwg yw bod ni ddim yn cael tebyg am debyg. Yn 1971 roedd rhan fwyaf o’r siaradwyr Cymraeg yn rhugl yn yr iaith ac yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg nawr yn dechrau codi eto ar bapur, ond mewn realiti mae’r nifer sy’n siarad yn rhugl yn llawer is, a’r nifer sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn mynd lawr yn gyflym. Ni’n prysuro tuag at sefyllfa fel Iwerddon, llawer yn gallu siarad yr iaith ond y mwyafrif yn dewis Saesneg.

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Chwefror 14, 2012 3:37 pm

“Cynnydd o ryw 2% dw i wedi’i glywed ar gyfer Cyfrifiad 2011, hynny yw, cynnydd o 21% i 23%.”

Ond cynnydd o 2% o gymharu â phoblogaeth Cymru, neu cynnydd o 2% o gymharu â’r rhai oedd yn siarad Cymraeg yn 2001? Os y cyntaf, ie, cynnydd o 21% i 23%, ond os yr ail, rhywbeth fel cynnydd 21% i 21.4% fyddai hynny.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 14, 2012 5:12 pm

Dwi ddim yn deall sut ma’r Gymraeg i fod yn orfodol ers dyddie Syr Wyn Roberts ond ma plant yn DAL i adael ysgolion Cymru yn methu siarad yr iaith ! Pam ? Fydde hyn ddim yn dderbyniol gyda maths neu Saesneg.

§| Nodi camddefnydd

irfon , Chwefror 14, 2012 6:24 pm

Mae’r ateb yn glir ac yn bendant- mae rhaid i ni stopio marw.

§

Lavinia , Chwefror 14, 2012 6:51 pm

Dyw hyn ddim yn syndod i fi o gwbl. Does dim byd o gwbl i gadw pobl yn y gogledd a’r gorllewin ac mae rhywbeth iw ddweud pan rwyn clywed mwy o Gymraeg ar strydoedd Pontcanna a Threganna nag yn Llandysul neu Aberteifi.

§| Nodi camddefnydd

neil wyn jones , Chwefror 14, 2012 7:39 pm

Mae’r nifer o Gymru Cymraeg sy’n symud i ffwrdd dim ond ychydig yn llai na’r nifer sy’n marw pob blwyddyn. Does fawr dim allai’r llywodraeth gwneud am y farwolaethau, ond dylai fod yn bosib helpu’r sefyllfa o ran y nifer o allfudwyr trwy weithredu i hyrwyddo’r economi yn y broydd Cymraeg. Mae’r nifer sy’n dysgu’r iaith hefyd yn ardal lle dylai’r llywodraeth bod yn canolbwyntio. Yn ol Heini Gruffudd dim ond 1000 o ddysgwyr sy’n cario ymlaen pob blwyddyn i’r lefel uwch, er bod tua 7000 yn dechrau ar y daith o ddysgu’r Gymraeg.

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Chwefror 14, 2012 8:31 pm

Mae hyn yn ddigalon, ond beth am ychwanegu llwydiannau megis twf ysgolion Cymraeg, papurau bro yn ffynnu, canghennau Merched y Wawr, Cynulliad yn y Bae, pobl ifanc yn tyrru i’n prifddinas, miloedd o gystadleuwyr yn Eisteddfodau’r Urdd ledled Cymru bob blwyddyn, sianel Gymraeg ein hunain. Nid ydym yn gwneud lles i’r iaith na denu pobl i’w dysgu/siarad drwy ddatgan gwae. Meddai’r ddihareb Saesneg nad oes dim yn llwyddo fel llwyddiant, felly beth am ganolbwyntio ar y cadarnhaol. ac ymhyfrydu yn yr hyder newydd sydd i’w weld yng Nghymru.

§| Nodi camddefnydd

Steffan Llysdinam , Chwefror 14, 2012 9:27 pm

“Dwi ddim yn deall sut ma’r Gymraeg i fod yn orfodol ers dyddie Syr Wyn Roberts ond ma plant yn DAL i adael ysgolion Cymru yn methu siarad yr iaith ! Pam ? Fydde hyn ddim yn dderbyniol gyda maths neu Saesneg.”

Ifor – mae’n digwydd gyda’r Saesneg a Maths a does dim ots gan neb. Y gwir plaen yw nid yw ysgolion dysgu popeth i blant, dim ond y rhai sy eisiau dysgu. Y rhai sy eisiau dysgu yw’r rhai sy’n lwcus bod ganddynt rieni da, call, gweithgar sy wedi annog nhw ers y dechrau. Y rhieni da yw’r rhai sy’n gweld gwerth i addysg. Y rhai sy’n gweld gwerth i addysg yw’r lleiafrif mewn cymdeithas. Felly, mae’r mwyafrif yn methu yn yr ysgol – yn y Gymraeg, y Saesneg, Maths a phopeth arall. Er hynny mae’n ffodus iawn bod y rhai yma’n cael gwaith mewn cwmnioedd adeiladu. A banciau.

§

Dafydd , Chwefror 14, 2012 10:19 pm

“Felly, mae’r mwyafrif yn methu yn yr ysgol – yn y Gymraeg, y Saesneg, Maths a phopeth arall.”

Dwi ddim wedi gweld unrhyw un yn dod allan o ysgol yn methu cyfathrebu yn Saesneg.

§

Owain Llyr bwcibo , Chwefror 14, 2012 10:29 pm

Dau ddysgwr anhygoel:

Ffred Ffransis
Janet Davies

rhywbeth i godi gwen efallai mewn amseroedd llwm?

§

huw , Chwefror 14, 2012 11:10 pm

Pam nad oes un gwleidydd o’r Llywodraeth Llafur wedi gorfod ateb am hyn?! Pam nad ydy Golwg wedi holi Carwyn Jones. Petai Cymru wedi colli fwy gêm rygbi byddai’r Carwyn un barod iawn i roi ei farn. Dewch mlaen Golwg, BBC. Gwnewch eich job!

Lle mae Gweinidog dros y Gymraeg, Leighton Andrews? Wedi’r cyfan mae’r Llywodraeth nawr yn rheoli pob agwedd o’r Gymraeg. Oes ganddyn nhw farn o gwbl ar hyn, wit Dduw?

Dwi am fod yn optimistaidd ond galla i ddim. Mae hon yn tipping point. Oni wneir rhywbeth radical iawn iawn – a does dim golwg o gwbl o hynny hyd yn hyn gan Lywodraeth Carwyn Jones – dwi’n meddwl fod ni ar y ffordd mâs. Dwi’n credu byddwn ni yn cyrraedd plateau o ran addysg Gymraeg yn y De Ddwyrain, does dim twf mewn AG yn Sir Gâr a Cheredigion, does dim angen Cymraeg ar gyfer swyddi a bydd nawr yn anoddach mynnu hynny, mae allfudo anferth blynyddol i brifysgolion Lloegr, mae cyfradd geni ddim yn adnewyddu ei hun, mae’r mewnlifiad yn troi’r Gymraeg yn iaith leiafrifol a’r seicoleg mae hynny yn ei greu ac ar ben hyn, does dim arweiniad gan wleidyddion ond chwaith mae’r union run dosbarth rheoli am gadw gafael ar bopeth a dim am adael unrhyw beth rhy genedlaetholaidd credant gall danseilio ei grym.

Dwi’n gobeithio i’r nef mod i yn anghywir ond dwi angen gweld dadleuon cryfion ac arweiniad ac nid jyst gweniaith neu hunan-dwyll.

§

William , Chwefror 16, 2012 12:39 pm

A bod yn onest beth a ydym yn ei ddisgwyl? 11% o blant ysgol oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd ym 1961. Mae hynny er hanner can mlynedd yn ôl! Mae ystadegau’r cyfrifiad yn gamarweiniol erbyn hyn fel yn achos Iwerddon. Rhaid gwynebu’r ffeithiau moel a wedyn gweithredu…

§

Rebal , Chwefror 21, 2012 8:51 pm

Mae baich arnom ni fel Cymry i basio’r iaith ymlaen drwy’r cenhedlaethau. Dwi’n abod rhai Cymry Cymraeg sydd heb, GWARTHUS!!!
Codi trethi uwch ar fewnfudwyr sy’s dinistrio ein cymunedau efallai??

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.