Heroin
Mae pennaeth canolfan sy’n delio â defnyddwyr cyffuriau wedi cefnogi adroddiad gan y Swyddfa Gartref sy’n awgrymu nad yw cosbi pobol am gymryd cyffuriau yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth.

Yn ôl Prif Weithredwr canolfan adfer alcohol a chyffuriau Brynawel yn Rhondda Cynon Taf, nid dyw carcharu pobol am droseddau cyffuriau ddim am wneud dim lles i’w hiechyd nac i’w harferion cyffuriau yn y pen draw.

“Mae pobol yn troi at gyffuriau oherwydd amryw o resymau cymdeithasol a seicolegol ac nid eu cosbi trwy’r system gyfiawnder yw’r ffordd orau ymlaen iddyn nhw, nac i’r gymdeithas yn gyffredinol,” meddai David Richards.

“Mae’n well cynnig triniaeth i bobol yn y gymuned ac mewn canolfannau adfer fel bod pobol yn cael gwella yn ddiogel a dysgu sut i beidio â bod yn ddibynnol ar gyffuriau.”

Cosbi’n gwneud fawr o wahaniaeth

Fe ddangosodd yr adroddiad nad oedd lefelau cymryd cyffuriau fawr gwahanol mewn gwledydd lle nad ydi hynny’n drosedd.

“Alla’ i ddim gweld sut mae carcharu pobol am helpu eu problem,” meddai David Richards. “Mae hi’n fater gwahanol i’r rhai sy’n delio mewn cyffuriau – mae angen mynd i’r afael â nhw.

“Ond o ran unigolion, mae’n rhaid darganfod pam eu bod nhw wedi troi at gyffuriau yn y lle cynta’ a rhoi triniaeth benodol, ofalus iawn iddyn nhw.”