Roedd amseroedd aros am ambiwlans wedi gostwng ym mis Ionawr, ar ôl y mis gwaethaf erioed fis Rhagfyr y llynedd.

Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod 65% o alwadau brys yn cael eu hateb o fewn wyth munud.

48.5% o’r galwadau gafodd eu hateb o fewn yr amser targed ym mis Ionawr, sy’n gynnydd o 5.9% o’i gymharu â mis Rhagfyr 2014.

‘Annerbyniol’

Ond yn ol llefarydd iechyd y Blaid Geidwadol Darren Millar AC mae’r amseroedd aros yn parhau’n annerbyniol: “Mae’r ffigurau yma yn dystiolaeth bellach o’r amseroedd aros gwarthus am ambiwlans yng Nghymru gyda llai na hanner y bobl sy’n ffonio 999 mewn sefyllfa sy’n bygwth bywyd yn cael ymateb o fewn wyth munud.

“Os yw rhywun yn cael strôc, neu drawiad ar y galon neu ddamwain ddifrifol gall unrhyw oedi cyn i gymorth meddygol gyrraedd amharu ar eu gwellhad neu wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

“Mae’r ffigurau yma yn annerbyniol ac mae’n rhaid i weinidogion Llafur fynd i’r afael a’r materion yma a gwyrdroi’r toriadau sydd wedi bod i’r Gwasanaeth Iechyd.”