
Harry Patch - 'Y Tomi Olaf' - a fu farw yn 2009 yn 111 oed (Jim Ross CCA 3.0)
Mae nifer y bobol tros 100 oed yng ngwledydd Prydain wedi treblu o fewn chwarter canrif.
Fe gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau heddiw bod cyfanswm y rhai tros 100 wedi codi o 2,500 yn 1985 i 12,640 yn 2010.
Mae hynny’n dilyn patrwm mwy cyffredinol, gyda phoblogaeth yr holl wledydd yn heneiddio a mwy a mwy o bobol yn byw yn hŷn.
Yng Nghymru, gall pobol ddisgwyl byw ychydig fisoedd yn llai na’r cyfartaledd tros weddill gwledydd Prydain ond mae oedran y boblogaeth yn gyffredinol yn hŷn yma.
- Yn ôl yr ystadegau, sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer Diwrnod Henoed Ewrop ddydd Sadwrn, mae canran y bobol tros 65 hefyd wedi codi 1.7 miliwn ers 1985.
- Mae’r canran bellach yn 17% a’r disgwyl yw y bydd hynny’n parhau, gan gyrraedd 23% erbyn 2035.
- Erbyn hynny, fe fydd canran y bobol dan 16 oed wedi syrthio o 21% yn 1985 i 19% yn 2010 ac 18% yn 2035.
- Yn yr un cyfnod, y disgwyl yw y bydd nifer y bobol dros 85 oed wedi codi o 690,000 i 1.4 miliwn y llynedd a 3.6 miliwn ymhen chwarter canrif arall.
Yn ôl y Swyddfa, y prif reswm am y cynnydd yn nifer yr henoed yw gwell gofal feddygol, a gwell tai, safonau byw a maeth yn ystod eu bywydau.
Ym Mhowys a Chonwy y mae’r poblogaethau hyna’ yng Nghymru – yno mae’r oedran canol saith mlynedd yn uwch na’r cyfartaledd trwy’r Deyrnas Unedig.