Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cameron yn cyhuddo Llafur o dorri cyllid iechyd Cymru

Chwefror 8, 2012 17:03, Diweddarwyd am 17:04


David Cameron
Mae’r Prif Weinidog wedi ymosod yn chwyrn heddiw ar y ffordd mae’r Blaid Lafur yn rheoli’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Yn ystod sesiwn holi yn Nhy’r Cyffredin prynhawn ma dywedodd David Cameron bod pobl yng Nghymru yn aros yn hirach am lawdriniaethau ac fe gyhuddodd gweinidogion ym Mae Caerdydd o dorri cyllid iechyd.

Roedd David Cameron yn ymateb i feirniadaeth i’w gynlluniau i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr – mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cynlluniau yn “llanast llwyr”.

Fe ddechreuodd y ffrae rhwng y ddwy Lywodraeth ar ôl i AS Llafur De Caerdydd a Phenarth Alun Michael alw ar Lywodraeth San Steffan i roi’r gorau i’w chynlluniau dadleuol i ddiwygio’r GIG.

Fe fyddai’r cynlluniau’n golygu bod y sector preifat yn chwarae rhan mwy amlwg o fewn y GIG – cam sydd wedi cael ei feirniadu’n llym gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

Fe ymatebodd David Cameron i gais Alun Michael AS drwy ddweud mai’r hyn y dylid “rhoi’r gorau iddi yw agwedd Llafur tuag at y GIG yng Nghymru.”

Aeth ati i gyhuddo Llywodraeth Cymru o dorri £400 miliwn o’r cyllid iechyd – toriad o 6.5% – gan ddweud bod 27% o bobl yng Nghymru yn aros mwy na chwech wythnos am wasanaethau diagnostig o’i gymharu â 1% yn Lloegr.

“Dyna be rydach chi’n ei gael gyda Llafur: dim arian, dim diwygio, dim gwasanaethau iechyd da,” meddai David Cameron.

‘Ffeithiau’n anghywir’

Ond dywedodd llefarydd ar ran Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths bod y Prif Weinidog yn amlwg wedi cael ei ffeithiau’n anghywir.

“Mae’n amlwg ei fod wedi cael ei gynhyrfu gan y feirniadaeth o’i gynlluniau i ddiwygio’r GIG yn Lloegr – cynlluniau sydd yn llanast llwyr.

“Gyda meddygon, y BMA, nyrsys, bydwragedd, undebau llafur a hyd yn oed rhai o fewn ei blaid ei hun yn beirniadu ei gynlluniau, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, ydy’r enw ‘Custer’ yn golygu unrhywbeth i’r Prif Weinidog?”

Dywedodd y llefarydd hefyd bod ffeithiau’r Prif Weinidog yn anghywir – roedd wedi dweud bod traean o gleifion yng Nghymru yn aros mwy na 18 wythnos am driniaeth tra bod y ffigwr mewn gwirionedd yn llai na hynny.

Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai y llynedd, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y  byddai’n gwario £6 biliwn y flwyddyn ar y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Ond tra bod y swm yn uwch na’r blynyddoedd blaenorol dywed y gwrthbleidiau ei fod yn doriad mewn gwirionedd gan nad yw’n cymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn chwyddiant.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Neilyn , Chwefror 8, 2012 7:22 pm

Be ddigwyddodd i’r “respect agenda” Mr Cameron? Tacteg i drio ailgyfeirio sylw oddi ar ddiwygiadau sydd yn amlwg yn amhoblogaidd iawn yn Lloegr efallai? Felly dyma’r un hen stori yn yr hen hanes gythryblus rhwng Cymru a Lloger – dilorni ar ddiwylliant gwleidyddol ddemocratiadd asgell chwith Cymru achos ei fod yn rhoi blaenoriaethau gwahanol i be welwyd yn Lloegr asgell dde?
Mae’n rhaid gofyn – a oes unrhyw fath o heddwch barhaol rhwng y ddwy Lywodraeth yng Nhaerdydd a Llundain yn bosib os fydd yr Alban yn dewis pleidleisio o blaid annibyniaeth, waeth be fydd pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol?

§

Ken , Chwefror 8, 2012 7:52 pm

Dewch i Aberystwyth , Neilyn. Cewch weld pa mor boblogaidd yw Leslie Griffiths a’i pholisiau hi a’i phliad yma. Ni chredaf y gwnai Cameron yn waeth na hi.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.