Roedd economi Prydain wedi tyfu 1.9% y llynedd, y twf mwyaf ers 2007, yn ôl ffigurau swyddogol gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Roedd y twf wedi arafu rhywfaint i 0.7% yn y pedwerydd chwarter ar ôl i’r sector adeiladu grebachu oherwydd perfformiad gwael ym mis Tachwedd.

Ond mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu bod y DU wedi llwyddo i adfer ei chyfran o’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) a gollwyd yn ystod y dirwasgiad.

Dywedodd prif ymgynghorydd economaidd yr ONS Joe Grice ei bod yn edrych “fel petai’r economi yn gwella yn fwy cyson.”

Yn 2007 roedd yr economi wedi tyfu 3.4%. Yn 2012, roedd twf wedi gostwng i 0.3%.

Dywedodd y canghellor George Osborne bod y ffigurau heddiw yn “hwb i sicrwydd economaidd pobl sy’n gweithio’n galed.”

Ychwanegodd: “Mae hyn yn ragor o dystiolaeth bod ein cynllun economaidd hirdymor yn gweithio. Ond nid yw’r gwaith wedi ei gwblhau eto – y risg mwyaf i dwf yr economi fyddai rhoi’r gorau i’r cynllun sydd wedi bod yn creu swyddi a dyfodol economaidd mwy llewyrchus.”