Dave Lee Travis
Mae’r cyn-gyflwynydd Dave Lee Travis wedi cael ei gyhuddo o ymosodiad rhyw hanesyddol.
Cafwyd e’n ddieuog o 12 cyhuddiad tebyg mewn achos a ddaeth i ben ym mis Chwefror.
Ond yn dilyn rhagor o dystiolaeth, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod digon o dystiolaeth i’w gyhuddo unwaith eto.
Cafodd wybod ar ddiwedd ei brawf y byddai’n wynebu rhagor o gyhuddiadau, ar ôl i’r rheithgor fethu â dod i gytundeb ar ddau gyhuddiad arall.
Honnir iddo ymosod yn anweddus ar ddynes ym mis Ionawr 1995.
Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster ar Ebrill 24.