Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ac o geisio llofruddio dynes 85 mlwydd oed.

Fe gafodd y bensiynwraig ei chludo i’r ysbyty ar ôl cael ei darganfod gydag anafiadau difrifol yn ei chartre’ yng Nghaeredin yn gynharach y mis hwn.

Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau fod dyn 23 oed wedi cael ei arestio yn dilyn yr ymosodiad ar Orffennaf 11.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Sirol Caeredin heddiw.