Mae cwmni awyrennau Virgin Atlantic wedi ymuno gyda rhai cwmniau eraill yn ei benderfyniad i beidio hedfan dros Irac.

Mae hyn oherwydd pryderon ynglyn diogelwch.

Mae hefyd yn dilyn damwain yr awyren Malaysia Airlines MH17 dros yr Wcrain yn gynharach y mis hwn, pan laddwyd 298 o bobol.

Yr ofn yn Irac yw y gallai gwrthryfelwyr benderfynu targedu awyrennau a’u saethu i’r ddaear.

Mae tasglu wedi’i sefydlu gan y diwydiant hedfan yn fyd-eang er mwyn ceisio sefydlu pa lwybrau hedfan sy’n ddiogel, a sut orau i rannu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddara’ mewn gwledydd lle mae ymladd.