Mosg yn Abertawe
Mae arweinwyr Mwslimaidd blaenllaw ym Mhrydain wedi cyhoeddi ‘fatwa’ yn erbyn eithafwyr sy’n ymuno â mudiadau terfysgol.

Dehongliad o gyfraith Islamaidd yw fatwa, sy’n cael ei gyflwyno gan glerigwyr neu ysgolheigion yn erbyn Mwslimiaid sydd wedi tramgwyddo yn erbyn eu crefydd.

Daw’r fatwa wrth i’r pryder gynyddu am y bygythiad o du terfysgwyr Islamic State ac wrth i’r Ysgrifennydd Cartref godi lefel y bygythiad o ymosodiad o ‘sylweddol’ i ‘difrifol’.

Mae’r ysgolheigion sydd wedi cyhoeddi’r fatwa yn disgrifio Prydeinwyr ifanc sy’n ymuno ag Islamic State fel ‘hereticiaid’.

Dywed y fatwa fod gan Fwslimiaid ddyletswydd moesol i helpu’r rheini sy’n dioddef yn Syria neu Irac, ond y dylen nhw wneud hynny “heb fradychu eu cymdeithasau eu hunain”.