Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi marwolaeth babi 10  mis oed mewn ysbyty yn Llundain.

Fe gafodd y babi ei gludo i ysbyty yn Barnet, gogledd Llundain, ddydd Gwener, Awst 29, ac fe gafodd yr heddlu eu galw am y staff meddygol. Fe gafodd y bachgen bach ei symud i ysbyty arall yng nghanol Llundain y diwrnod hwnnw, ond bu farw ddydd Llun, Medi 1.

Mae heddlu Scotland Yard wedi cadarnhau fod dynes 31 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae hi wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tan ganol Hydref, tra bod ymholidadau’n parhau.

Mae Scotland Yard hefyd wedi cadarnhau fod teulu’r babi bach wedi cael gwybod am y datblygiadau, a bod plismyn yn dal i ymchwilio sut yn union y bu’r bachgen farw.

Mae prawf post-mortem wedi’i gynnal yn Ysbyty Great Ormond Street, ond dyw meddygon ddim wedi cyhoeddi’n ffurfiol achos y farwolaeth.