Mike Read
Mae’r DJ Mike Read wedi ymddiheuro am sarhau pobol groenddu gyda chân calypso sy’n cefnogi UKIP.

Yn y gân, mae Read yn dynwared acen y Caribî.

Dywedodd Mike Read ei fod e wedi gofyn i’r label recordiau dynnu’r gân yn ôl o’r farchnad.

Mae’r gân yn canmol plaid UKIP a’i harweinydd Nigel Farage.

Dywedodd Read: “Dw i mor flin fod y gân wedi sarhau yn anfwriadol.

“Nid dyna oedd fy mwriad a dw i’n ymddiheuro’n ddi-ben-draw os yw unrhyw un wedi cael eu sarhau.

“Dw i wedi gofyn i’r label recordiau dynnu’r sengl yn ôl ar unwaith.”