Ed Miliband yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion y mis diwethaf (llun: PA)
Mae ymddiswyddiad Johann Lamont fel arweinydd Llafur yn yr Alban wedi rhoi rhagor o bwysau ar arweinyddiaeth Ed Miliand.

Ar ôl iddi gyhuddo’r blaid Lafur yn Llundain o ymyrryd yn ormodol ym materion yr Alban, ac o drin yr Alban fel cangen ranbarthol, mae tensiynau pellach o fewn y blaid Lafur wedi dod i’r amlwg yn ystod y dydd.

Yn ôl ffynonellau agos at Johann Lamont, roedd hi wedi cael ei gwahardd am tua blwyddyn gan Ed Miliband rhag beirniadu’r dreth llofftydd. Roedd y blaid Lafur yn Llundain yn pwyso arni i beidio ag addo diddymu’r toriad dadleuol mewn budd-dal tra oedd Ed Miliband wrthi’n penderfynu sut y byddai’n ymdrin â’r pwnc.

Amhoblogaidd

Mae polisi’r llywodraeth glymblaid yn Llundain o orfodi tenantiaid tai cyngor i dalu mwy am ystafelloedd sbâr wedi bod yn hynod amhoblogaidd yn yr Alban.

Yn ystod ymgyrch y refferendwm ar annibyniaeth roedd hi wedi cael ei dirmygu’n barhaus gan gefnogwyr annibyniaeth am yr hyn a oedd yn cael ei ddisgrifio fel agwedd amwys ganddi tuag at y toriad yn y budd-dal.

Fel arwydd pellach o’r tensiynau, mae adroddiadau hefyd am Ed Miliband yn teimlo sarhad personol wrth i swyddfa Johann Lamont ofyn iddo beidio â chwarae rhan rhy amlwg yn y dyddiau olaf cyn y refferendwm.

Roedd Ed Miliand yn benderfynol o beidio â gweld y cyn-brif weinidog Gordon Brown yn cael y lle blaenaf ymysg yr ymgyrchwyr Na, er mai hynny a ddigwyddodd yn y diwedd.

Pwysau ar Brown

Yn y cyfamser, mae Gordon Brown eisoes wedi dod o dan bwysau i gymryd lle Johann Lamont fel arweinydd Llafur yn yr Alban.

Yn ôl Michael Connarty, AS Llafur Linlithgow a Dwyrain Falkirk, mae’r cyn-brif weinidog yn “gawr o ddyn sy’n siarad iaith pobl yr Alban”. Mewn cyfweliad ar brif raglen newyddion BBC Radio Scotland y bore yma, dywedodd: “Dylem fod yn siarad am Gordon, ac am Gordon yn unig.”

Nid yw Gordon Brown wedi gwneud sylw am yr alwad, ond mae wedi cyhoeddi datganiad yn dweud ei fod yn gresynu at ymddiswyddiad Johann Lamont ac yn canmol yr hyn a gyflawnodd fel arweinydd.