Peiriant profi anadl
Mae mwyafrif clir o yrwyr bellach eisiau gwahardd yfed unrhyw alcohol o gwbl cyn gyrru cerbyd, yn ôl arolwg newydd.

  • Dywedodd 43% o bobol y dylai’r lefel derbyniol ar gyfer prawf yfed a gyrru ddisgyn o 80mg i ddim ond 20mg, a fyddai’n golygu bod dim modd yfed unrhyw alcohol cyn gyrru.
  • Roedd 31% arall o baid lleihau’r lefel i 50mg, lefel sydd newydd gael ei chyflwyno yn yr Alban.
  • Dim ond 26% oedd eisiau cadw’r lefel presennol ar gyfer profion yfed a gyrru, yn ôl arolwg gan elusen ddiogelwch ffordd Brake a chwmni yswiriant Direct Line.
  • Roedd 95% o yrwyr eisiau i’r rheiny oedd yn cael eu dal yn yfed a gyrru fwy nag unwaith wynebau cosbau llymach.

Galw am addewid

Mae elusen Brake eisoes wedi galw ar y pleidiau gwleidyddol i wneud addewid y byddan nhw’n gostwng y lefel i 20mg ar ôl yr etholiad nesaf.

“Mae’r lefel yfed a gyrru yng Nghymru a Lloegr yn rhoi neges gymysglyd ac yn gofyn i yrwyr wneud rhywbeth amhosib – dyfalu pryd maen nhw o dan y lefel, a dyfalu pryd mae’n saff iddyn nhw yrru,” meddai Julie Brake.

“Mewn gwirionedd mae hyd yn oed ychydig iawn o alcohol yn gallu effeithio ar allu rhywun i yrru, felly’r unig ddewis saff yw peidio yfed o gwbl cyn gyrru. Dylai’r gyfraith wneud hyn yn glir.

“Rydyn ni hefyd yn apelio i’r cyhoedd wrth i ni agosáu at y Nadolig i beidio â mynd y tu ôl i’r olwyn ar ôl yfed unrhyw alcohol.”

Awgrymodd llefarydd ar ran yr RAC fod cael dwy lefel yfed a gyrru yng ngwledydd Prydain yn ddryslyd ac y dylai’r gwledydd eraill ddilyn esiampl yr Alban.