Mae tad wedi cael ei garcharu am naw mlynedd am ddynladdiad ei ferch 12 wythnos oed.

Roedd Tyler Vallance wedi ysgwyd ei blentyn mewn modd treisgar ofnadwy, ac roedd wedi cyfaddef ei lladd. Fe gafodd ei ddedfrydu i 18 mis arall heddiw yn Llys y Goron Caerwrangon, wedi iddo gydnabod achosi niwed corfforol difrifol i Isabella Vallance yn ystod ymosodiad cynharach yn 2012.

Yn yr ymosodiad a’i lladdodd, fe achosodd Tyler Vallance, 21, yr hyn y cyfeiriodd y Barnwr Robert Juckes ato fel “anafiadau erchyll i’r ymennydd a achosodd i’r babi fynd yn anymwybodol tra ym mreichiau ei thad”.

Mae mam y plentyn, Jessica Wiggins, 20, wedi ei dedfrydu i naw mis o garchar gohiriedig, ar ol ei chael yn euog o ganiatau marwolaeth Isabella dam law ei chyn-bartner treisgar, Tyler Vallance.