Catrin Williams
Mae’n bryd i’r Sun symud gyda’r amser, yn ôl Catrin Williams …

Pwy fysa’n meddwl y byddai dod â diwedd i argraffu llunia o ferched bronnoeth ar ‘Page 3’ un o bapura’ newydd Prydain yn creu gymaint o drafodaeth!

Efallai ei fod yn arferiad sydd wedi para 44 o flynyddoedd, ond wrth i ferched geisio gael yr un statws a dynion o fewn cymdeithas mewn ymdrech i geisio cael eu trin yn gyfartal, mae cael llun dynas bronnoeth mewn papur newydd dyddiol wir yn niweidio’r ddelwedd newydd yma.

Ac mae’r ffaith fod y Sun wedi ceisio cyfiawnhau’r dudalen llynedd drwy ei glymu gydag ymgyrch cancr y fron yn sarhaus tuag at y rheiny sydd yn dioddef o’r cyflwr.

Dadl un cyn-ddirprwy olygydd o’r Sun oedd bod yr enwog ‘Page 3’ wedi creu teimlad o chwyldro rhywiol yn ôl yn yr 80au.

Mae’r wlad wedi symud gymaint â hynny yn ei blaen ers y dyddia’ yna – felly pam fod dal angen cael y fath lun mewn papur newydd?

Mae modd efallai i ddadlau fod y dudalen adnabyddus yma wedi bod yn un ffordd o gynyddu poblogrwydd y Sun, ac i ryw raddau mae hyn wedi gweithio gan fod llawer yn ymwybodol o’r papur newydd yma – oherwydd y dudalen enwog ‘Page 3’.

Cyfle am enwogrwydd

Rhywbeth arall dwi yn ei ffeindio yn anodd ei gredu ydi sut mae’r Sun yn cael ei gadw gyda phapura’ newydd eraill mewn siop, pan fod cylchgronau o’r fath yn cael eu cadw ymhell allan o olwg. Faint o blant sydd felly wedi gafael mewn copi a throi i dudalen 3?

Efallai fod y dudalen ar un cyfnod yn cael ei gweld fel ffordd i ddod yn enwog – gyda Jordan (Katie Price) yn un ohonynt.

A bod ymddangos ar y dudalen wedi bod yn nod i lawer o genod ifanc oedd isio bod yn enwog ac isio ‘modelu’.

Genod dal yno

Er bod dim cadarnhad wedi dod gan y Sun ei hun mae’n ymddangos fel petai’r lluniau bronnoeth o ferched ar dudalen 3 yn dod i ben.

Mae llunia’ o ferched dal am fod ar y dudalen – ond yn cadw ychydig mwy o barch – hynny drwy beidio bod yn fronnoeth.

Ydi hyn yn dangos newid mewn agwedd o fewn ein cymdeithas felly? Dadl llawer ydi fod ein cymdeithas wedi dod yn llawer mwy agored, a bod y dudalen 3 yn rhan o hynny.

Ond tybiaf ei fod fwy i wneud efo’r ffaith fod delwedd merched yn yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei iselhau drwy gael y fath lunia’ mewn papur newydd dyddiol.

Stopiodd y Sun yn Iwerddon gyhoeddi llunia’ o’r fath nôl yn 2013, ac ychydig iawn o effaith gafodd hyn ar werthiant y papur newydd.

Wrth ystyried hyn gallwn weld fod y papur newydd yn gwerthu – nid am gynnwys tudalen 3, ond am gynnwys y papur newydd yn gyffredinol.

Felly nid oes gwir angen na phwrpas i’r dudalen yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw.

Mae Catrin Williams yn fyfyrwraig LPC ym Mhrifysgol Y Gyfraith Caer.