Menywod sydd yn debygol o ddioddef fwyaf yn sgil ton newydd o ddementia, yn ôl ymchwil gan Alzheimer’s Research UK.

Yn ôl ymchwilwyr, menywod hefyd sydd fwyaf tebygol o ofalu am bobol sy’n dioddef o ddementia.

Ymhlith pryderon menywod ynghylch dementia mae’r ffaith eu bod nhw’n dioddef straen corfforol ac emosiynol, a’r ffaith fod rhaid iddyn nhw roi’r gorau i weithio er mwyn gofalu am anwyliaid.

Mae mwy na 500,000 o fenywod yn dioddef o ddementia, o’i gymharu â 350,000 o ddynion, ac mae menywod dros 60 oed ddwywaith yn fwy tebygol o gael dementia ag ydyn nhw o gael canser y fron.

Mae menywod hefyd ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o ofalu 24 awr y dydd am rywun â dementia ag ydyw dynion.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi fis nesaf yn ystod Gŵyl Menywod y Byd.

Dywedodd cyfarwyddwr materion allanol Alzheimer’s Research UK, Hilary Evans: “Mae dementia yn cael effaith ddinistriol ar bawb y mae’n cyffwrdd â’u bywydau, ond mae’n ergyd driphlyg i fenywod – mae mwy o fenywod yn marw o ganlyniad id dementia, mae mwy o fenywod yn ysgwyddo baich gofal ac mae mwy o fenywod sy’n gweithio ym maes ymchwil dementia yn gadael y byd gwyddoniaeth.

“Mae profiadau’r menywod hyn yn tanlinellu’r angen brys i fynd i’r afael ag afiechydon sy’n achosi’r cyflwr hwn sy’n chwalu bywydau.

“Yn ystod y degawdau diwethaf, rydyn ni wedi gweld mwy a mwy o fuddsoddiad mewn meysydd fel canser yn cael gwir effaith, ac mae angen i ni efelychu’r llwyddiant hwnnw ar gyfer dementia.

“Dim ond trwy ymchwil y gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd o drin ac atal dementia, a thrawsnewid bywydau’r cannoedd o filoedd sy’n cael eu heffeithio.”