Y prawf anadl - trefn debyg yn bosib i gyffuriau eraill
Mae’r AA wedi croesawu rheolau newydd ynglŷn â gyrru o dan ddylanwad cyffuriau a ddaw i rym yr wythnos nesaf.

Dywedodd y gymdeithas foduro eu bod nhw hefyd yn falch bod cynlluniau ar y gweill, erbyn mis Ebrill o bosib, i’w gwneud yn fwy anodd osgoi profion yfed a gyrru.

Fe fydd y rheolau newydd ar gyffuriau a gyrru yn golygu creu trosedd newydd o yrru tra bod gan rywun lefelau uwch o gyffur meddygol yn eu cyrff na’r arfer.

Wyth cyffur

Mae’r rheolau newydd ar gyffuriau a gyrru, sydd yn dod i rym dydd Llun, yn cynnwys cyfyngiadau ar wyth cyffur anghyfreithlon gan gynnwys herion, cocên, LSD a chanabis yn ogystal â chyffuriau meddygol fel morffîn a methadon.

Dim ond sampl gwaed fydd ei angen ar yr heddlu i ddangos bod mwy o’r cyffur yng nghorff rhywun nag sy’n cael ei ganiatáu, ond fe allan nhw hefyd ddefnyddio teclynnau profion cyffuriau i ddechrau i brofi gyrwyr.

Pwysleisiodd yr AA bod modd cosbi pobol hefyd am yrru o dan ddylanwad cyffuriau eraill hefyd – o dan gyfreithiau presennol.

Yfed a gyrru

Mae disgwyl hefyd i’r rheolau ar yfed a gyrru gael eu tynhau er mwyn atal pobol rhag oedi cyn rhoi sampl i’r heddlu.

Ar hyn o bryd mae’r rhan fwya’ o bobol sydd yn cael eu stopio ar amheuaeth o yfed a gyrru yn cael prawf anadl ond mae modd hefyd mynnu prawf gwaed neu ddŵr, sy’n cymryd mwy o amser.

Bydd y rheolau newydd yn cael gwared â’r opsiwn statudol hwnnw i bobol sydd yn cael eu hamau o yfed a gyrru.

‘Gwerth yr aros’

Dywedodd yr AA eu bod yn gobeithio y bydd y rheolau newydd yn atal rhagor o ddamweiniau ar y ffyrdd.

“Mae pobol sydd yn yfed neu gymryd cyffuriau a gyrru yn creu risg diangen a hunanol i ddefnyddwyr ffordd eraill, ac rydyn ni’n croesawu’r pwerau ychwanegol hyn,” meddai llywydd yr AA Edmund King.

“Mae wedi cyrraedd blynyddoedd i gyrraedd y pwynt ble rydyn ni wedi cael y teclynnau profi am gyffuriau i’r heddlu allu eu defnyddio, a chael deddfwriaeth newydd i daclo gyrwyr sydd yn yfed a chymryd cyffuriau.

“Ond os yw e’n helpu i leihau’r nifer sydd yn cael eu hanafu fe fydd hi werth yr aros.”