Mae dau o bobol wedi’u harestio mewn cysylltiad a diflaniad y ferch 16 oed, Becky Watts.

Ond mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cadarnhau fod y gwaith o chwilio am y ferch yn dal i fynd rhagddo, er bod y ddau unigolyn yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae hi bellach dros wythnos ers i’r ferch yn ei harddegau gael ei gweld ger ei chartre’ yn ardal St George o ddinas Bryste.

Fe adawodd ei chartre’ ar Chwefror 19, ond dydi hi ddim wedi ffonio, e-bostio na chysylltu mewn unrhyw fodd i ddweud lle’r oedd hi’n mynd. Wnaeth hi ddim pacio dillad chwaith.