Jeremy Clarkson
Fe allai’r cyflwynydd dadleuol Jeremy Clarkson adael y BBC pan ddaw ei gytundeb i ben ddiwedd y mis, a chyn i ymchwiliad i’w ymddygiad gael ei gwblhau.

Mae Clarkson, sy’n cyflwyno Top Gear, wedi’i wahardd o’i waith dros dro yn sgil honiadau ei fod wedi taro cynhyrchydd yn dilyn ffrwgwd.

Roedd disgwyl i holl gyflwynwyr y rhaglen dderbyn cytundebau newydd gan y BBC am dair blynedd ychwanegol.

Ond bellach, mae amheuaeth a fydd y triawd – Clarkson, James May a Richard Hammond – yn parhau i gyflwyno’r rhaglen ar ôl y gyfres bresennol.

Y Gorfforaeth sy’n berchen ar hawliau’r rhaglen, sy’n werth £50 miliwn, ac maen nhw’n wynebu’r posibilrwydd y gallai Clarkson fynd â chyfres debyg at un o’u gwrthwynebwyr.

Mae tair pennod ola’r gyfres bresennol wedi’u gohirio tra bo’r ymchwiliad yn parhau.

Mae mwy na 250,000 o bobol bellach wedi arwyddo deiseb yn galw ar y BBC i ganiatáu i Clarkson ddychwelyd i’w waith.