Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gipio merch chwech oed yn ardal Burnley yn Swydd Gaerhirfryn ddydd Iau.
Roedd adroddiadau bod y ferch wedi’i chipio gan ddyn mewn car tywyll oddeutu 4 o’r gloch yn y prynhawn.
Mae lle i gredu ei bod hi wedi cael ei gollwng o’r car dair milltir i ffwrdd ym mhentref Hapton.
Dychwelodd hi adref cyn i’r heddlu gael eu galw.
Mae dyn 33 oed o Accrington yn y ddalfa, ac mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.