Mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon wedi dweud na all hi roi sicrwydd i arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband na fydd ail refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal.

Dywedodd Sturgeon wrth raglen Andrew Marr y BBC mai yn nwylo pobol yr Alban mae’r penderfyniad.

Dywedodd nad oes ganddi gynlluniau i gynnal ail refferendwm, ond nad oes ganddi’r hawl chwaith i ddweud na fyddai’n cael ei gynnal yn y pen draw.

“Rwy wedi egluro pe baech chi’n pleidleisio dros yr SNP yn yr etholiad hwn, nad yw’n bleidlais dros annibyniaeth, nac ychwaith yn bleidlais dros refferendwm arall.

“Dydw i ddim yn cynllunio ar gyfer refferendwm arall.

“Nid fi sydd i benderfynu a fydd refferendwm arall, nac a fydd yr Alban yn dod yn annibynnol. Mater i bobol yr Alban i’w benderfynu yw hynny.”

Dywedodd Nicola Sturgeon na fyddai’r SNP yn achosi “anhrefn” yn San Steffan er mwyn sicrhau annibyniaeth.

“Rhaid i fi ddarbwyllo pobol na fydd yr SNP yn achosi unrhyw fath o anhrefn yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl yr etholiad.

“Rydyn ni am fod yn adeiladol, sicrhau gwell gwleidyddiaeth allan o system San Steffan.”