Senedd yr Alban
Mae’r SNP yn galw ar David Cameron i “ail-ystyried” cynlluniau i gael Pleidleisiau Seisnig ar Ddeddfau Seisnig – EVEL.

Mae Aelod Seneddol yr SNP, Pete Wishart, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn dweud bod y cynlluniau, a gafodd eu hamlinellu yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau, yn “warth cyfansoddiadol.”

Ond mae Ysgrifennydd yr Alban, David Mundell, wedi mynnu eu bod yn “gamau rhesymol a phragmataidd” sydd ddim yn cyfyngu ar hawliau ASau yr Alban i gynrychioli eu hetholwyr.

Daw’r sylwadau ar ôl i’r SNP, y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol ddod ynghyd i gondemnio’r cynlluniau gan Lywodraeth San Steffan i gyflwyno Pleidleisiau Seisnig ar Ddeddfau Seisnig (EVEL).

Fe fydd yn rhaid i’r newidiadau gael eu cymeradwyo mewn pleidlais yn y Senedd ar 15 Gorffennaf.