Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Samariaid yn arbed marwolaethau rheilffordd

Mehefin 19, 2011 12:42


Cledrau
Mae hyfforddiant y mae mudiad y Samariaid yn ei roi i staff rheilffordd, wedi arwain at ostyngiad yn nifer y rheiny sy’n cael eu lladd gan drenau.

Mae dros 1,000 o staff mewn 220 o lefydd ym mhob cwr o’r rhwydwaith rheilffordd, wedi derbyn cyngor rhwystro hunanladdiad mewn rhaglen hyfforddi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ystadegau diweddar yn dangos fod 207 o bobol wedi taflu eu hunain o flaen trenau yn ystod 2010/11 – ac mae’r ffigwr yn dangos gostyngiad o 11% ar y nifer yn 2009/10.

Mae’r rhaglen hyfforddiant wedi ei chynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesa’, ac mae’n cael ei gefnogi gan £5m gan Network Rail. Mae’n cynnwys cyngor ynglyn a sut mae annog pobol i gamu oddi ar y rheilffordd ac o beryg. Mae hefyd yn dweud sut y dylid rhoi cefnogaeth emosiynol i’r sawl sy’n ystyried hunanladdiad.

Mae’r rhaglen hyfforddi hefyd yn cynnwys cefnogaeth i yrwyr trên sy’n cael eu hypsetio’n arw wedi bod yn rhan o ddigwyddiad lle mae rhywun wedi taflu eu hunain o flaen eu trên.

“Er bod nifer yr hunanladdiadau ar reilffyrdd yn dangos gostyngiad, sy’n galonogol, fe allai cynnydd yn nifer y bobol ddi-waith yn ystod y blynyddoedd nesa’ weld y duedd yn newid,” meddai Rachel Kirby-Rider, Cyfarwyddwr Codi Arian a Chyfathrebu, y Samariaid.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.