Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Nwy Prydain i ostwng biliau trydan 5%

Ionawr 12, 2012 11:28


Mae Nwy Prydain wedi torri biliau pum miliwn o’u cwsmeriaid ar ôl cyhoeddi heddiw eu bod yn cyflwyno gostyngiad o 5% yn eu biliau trydan.

Fe fydd y gostyngiad yn cael ei gyflwyno’n syth a bydd yn golygu y bydd cwsmeriaid yn arbed £24 yn eu biliau ar gyfartaledd.

Daw’r cyhoeddiad chwe mis ar ôl i berchnogion y  cwmni, Centrica, gyhoeddi cynnydd o 18% mewn biliau trydan a 16% i filiau nwy ym mis Awst.

Dywed Nwy Prydain na fydd na ostyngiad mewn prisiau nwy, ond mae Southern Electric a Swalec wedi dwedu heddiw y byddan nhw’n torri eu prisiau nwy 4.5% o 26 Fawrth.

Mae’n dilyn cyhoeddiad ddoe gan gwmni ynni EDF eu bod yn torri prisiau nwy o 5%. Mae disgwyl i gwmniau eraill gyflwyno gostyngiad hefyd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.