
Mae Comisiynydd Heddlu’r Metropolitan wedi ennill apel yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys ynglŷn â thactegau gafodd eu defnyddio i reoli’r dorf yn ystod protestiadau G20 yn 2009.
Roedd barnwyr yr Uchel Lys wedi dyfarnu bod plismyn wedi ymddwyn yn anghyfreithlon mewn dau achos yn ystod y protestiadau.
Ond heddiw fe benderfynodd yr Arglwydd Neuberger yn y Llys Apel bod dyfarniad yr Uchel Lys yn anghywir ac mae nhw wedi caniatau i’r heddlu apelio.