
Alan McMenemy
Mae gwraig weddw dyn o’r Alban wedi dweud y bydd hi a’i theulu yn gallu dechrau galaru amdano yn iawn ar ôl i’w gorff gyrraedd y llysgenhadaeth Brydeinig yn Irac.
Dywedodd Rosleen McMenemy y bydd “cael ei gorff adref o’r diwedd yn rywfaint o gysur i’r rheini oedd yn ei garu”.
Cafodd Alan McMenemy, o Glasgow, ei gipio gan wrthryfelwyr yn Irac yn 2007. Roedd yn un o bedwar oedd yn gwarchod arbenigwr ar dechnoleg gwybodaeth yn y wlad.
Dychwelwyd cyrff y gwarchodwyr eraill, gan gynnwys Alec MacLachlan, 30, o Lanelli, yn 2009.
Rhyddhawyd yr arbenigwr cyfrifiadurol yr oedden nhw’n ei warchod, Peter Moore, 36, yn fyw ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.
Roedd Alan McMenemy yn 34 oed pan gafodd ei gipio. Cafodd Jason Swindlehurst, 38, o Skelmersdale, Swydd Gaerhirfryn, a Jason Creswell, 39, o Glasgow hefyd eu cipio a’u lladd.
Cipiwyd y pump gan wrthryfelwyr oedd wedi eu gwisgo fel heddlu yn adran gyllidol Irac ym mis Mai 2007.
‘Ansicrwydd’
Dywedodd Rosleen McMenemy fod ei theulu “wedi dioddef o ansicrwydd ofnadwy dros y pedair blynedd diwethaf. Rydyn ni wedi pryderu am Alan bob munud o bob diwrnod.
“Hoffwn i ddiolch i’r teulu estynedig, ein ffrindiau, cydweithwyr, a phawb arall sydd wedi ein helpu ni yn ystod y cyfnod tywyll hwn.
“Heb eu cefnogaeth ni fydden ni wedi goroesi’r dyddiau du.”
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, ei fod yn gallu cadarnhau, “gyda thristwch mawr”, fod y llysgenhadaeth Brydeinig wedi derbyn corff Alan McMenemy.
“Rydw i’n meddwl am deulu a ffrindiau Alan ar hyn o bryd. Maen nhw wedi disgwyl am amser hir i’w gael yn ôl ac rydw i’n gobeithio y bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw gael rhywfaint o heddwch ar ôl amser caled iawn na ddylai’r un teulu orfod mynd drwyddo.
“Fe ddylen ni hefyd gofio am deuluoedd Margaret Hassan a Ken Bigley sy’n parhau i ddisgwyl i’w cael nhw yn ôl.”