Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Y Frenhines yn barod am barti

Ionawr 22, 2012 10:37


Y Frenhines Elizabeth
Mae’r Frenhines wedi rhoi sêl bendith i gyfres o bartïon stryd a fydd yn cael eu cynnal ledled Prydain er mwyn dathlu ei Jiwbilî Diemwnt ym mis Mehefin.

Mae hi wedi ysgrifennu at drefnwyr y Big Lunch gan ddweud ei bod hi “werth ei bodd” y bydd y partion yn cael eu cynnal ar 3 Mehefin.

Bydd y cinio mawr yn ganolbwynt i benwythnos hir a fydd yn cynnwys gŵyl banc ar ddydd Llun a dydd Mawrth y 4ydd a’r 5ed.

Y nod fydd dathlu 60 mlynedd y Frenhines ar yr orsedd.

Gobaith y trefnwyr yw efelychu’r partïon stryd a gynhaliwyd er mwyn dathlu coroni’r Frenhines yn 1953.

Dechreuodd y Big Lunch yn 2009 er mwyn annog cymunedau i ddod at ei gilydd. Y llynedd fe gymerodd bron i ddwy filiwn o bobol ran yn y digwyddiad.

Eleni maen nhw’n annog pobol yn bob un o’r 54 gwlad sy’n rhan o’r Gymanwlad i gymryd rhan yn y dathlu.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r Frenhines am ei neges gefnogol,” meddai Peter Stewart, trefnydd y Big Lunch.

“Rydw i’n siŵr y bydd pawb sy’n cymryd rhan eisiau ymuno â fi wrth ddiolch iddi am ddymuno’n dda i ni.

“Roedd tua 10 miliwn o bobol wedi cymryd rhan yn nathliad Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977 ac rydyn ni’n gobeithio y bydd nifer fawr yn cymryd rhan yn y Big Lunch yn 2012.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


CGT , Ionawr 22, 2012 11:39 am

Pob aflwyddiant i’w mawrhydi, ei theulu, a’i chynffonwyr eleni.

§| Nodi camddefnydd

Mali , Ionawr 22, 2012 1:01 pm

2 gwyl banc??? A pan ni yn gofyn yn am 1 gwyl banc i ddathlu Dydd Gwyl Dewi Mawrth 1af, rydym cael ein gwrthod pob tro. Dangos yn tydi be mae’r sefydliad Prydeinig yn meddwl am Gymru.

§| Nodi camddefnydd

Sion , Ionawr 22, 2012 3:04 pm

Os chi am adrodd straeon fel hyn Golwg byddai’n werth i chi edrych ar wefan y “Big Lunch” sy’n cael eu trafod yn yr erthygl. Mae’r wefan yn ddwyieithog ac mae enw Cymraeg gyda nhw, sef “Y Cinio Mawr”.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.