
Fe fydd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Mark Thompson a gweithredwyr teledu eraill yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg heddiw.
Fe fydd Mark Thompson yn ymddangos ynghyd â chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC yr Arglwydd Patten, golygydd newyddion Channel 4 Jim Gray a John Battle o ITN.
Mae disgwyl iddyn nhw ddweud sut mae nhw’n cael eu llywodraethu gan y corff sy’n arolygu’r diwydiant darlledu, Ofcom, sydd â rheolau mwy llym o’i gymharu â Chomisiwn Cwynion y Wasg, y corff sy’n arolygu papurau newydd a chylchgronau.