
Fe wariodd y BBC £310,000 ar dditectifs preifat dros gyfnod o chwe blynedd, clywodd Ymchwiliad Leveson heddiw.
Clywodd yr ymchwiliad i safonau’r wasg bod y gorfforaeth wedi defnyddio’r ditectif preifat Steve Whittamore, gafodd ei ddedfrydu yn ddiweddarach am gael manylion personol drwy ddulliau anghyfreithlon.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Mark Thompson bod y staff y gorfforaeth wedi defnyddio ditectifs preifat 232 o weithiau rhwng Ionawr 2005 a Gorffennaf 2011 ar gost o £310,000.
Roedd yr adran Newyddion wedi gwario £174,000, a BBC Vision wedi gwario £133,000 ar gyfer rhaglenni defnyddwyr yn bennaf.
Dywedodd Mark Thompson bod hyn yn cynrychioli tua 0.011% o wariant yr adran newyddion a 0.002% o gyllideb Vision dros y cyfnod yma.
Yn 2001 roedd newyddiadurwr materion cyfoes wedi cyflogi Whittamore i geisio darganfod a oedd pedoffil yn teithio ar awyren i faes awyr Heathrow.
Roedd y rhaglen yn ceisio darganfod a oedd pobl oedd wedi eu dedfrydu am droseddau rhywiol yn erbyn plant yn y DU yn llwyddo i gael swyddi yn gweithio gyda phlant mewn gwledydd eraill. Ni chafodd y rhaglen ei darlledu.