Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Archesgob Efrog yn beirniadu priodas rhwng hoywon

Ionawr 28, 2012 10:05


Archesgob Sentamu
Mae Archesgob Efrog wedi dweud y bydd y Prif Weinidog David Cameron yn ymddwyn fel ‘unben’ os y bydd y llywodraeth yn caniatau i uniad rhwng dau o’r un rhyw gael ei alw’n briodas.

Bydd llywodraeth San Steffan yn cychwyn ymgynghori ar y mater ym mis Mawrth. Daeth ymgynghoriad cyffelyb gan lywodraeth yr Alban i ben ddiwedd Rhagfyr.

Mewn cyfweliad ym mhapur y Daily Telgraph dywed Dr John Sentamu mai dim ond uniad rhwng dyn a dynes ellid ei alw’n briodas yng ngwir ystyr y gair gan ychwanegu mai nid lle’r wladwriaeth yw diffinio priodas sydd wedi esblygu yn draddodiadol a hanesyddol.

“Rydyn ni wedi gweld unbennaethiaid yn gwneud hyn mewn cyd-destunau gwahanol a dwi ddim eisiau gweld ail ddiffinio strwythurau cymdeithasol clir sydd wedi bod mewn bodolaeth ers amser maith am fod y wladwriaeth yn credu yn wahanol” meddai.

Dywedodd nad oedd yr Eglwys yn gwrthwynebu cynlluniau i ganiatau i seremoniau partneriaethau sifil rhwng dau berson o’r un rhyw gael eu cynnal mewn addoldai os yw’r enwad crefyddol yn caniatau ond ychwanegodd bod galw’r partneriaethau yma yn ‘briodasau’ yn ymdrech i newid yr iaith Saesneg.

“Dyw hyn ddim yn ymdrech i leihau, gondemnio, beirniadu na israddio unrhyw berthynas rhwng unigolion o’r un rhyw oherwydd nid dyma graidd y ddadl” meddai.

Yn yr un cyfweliad dywedodd Dr Sentamu hefyd nad yw’r Eglwys Anglicaniadd yn denu a chadw digon o addolwyr croenddu a dosbarth gweithiol croenwyn a bod yr eglwys ar ei cholled oherwydd hynny.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Martin Wilias , Ionawr 28, 2012 11:06 am

Nid wyf yn gwrthwynebu partneriaethau sifil rhwng dau berson o’r un rhyw MEWN ADEILAD SECIWLAR. Ond mewn capel neu eglwys? Na.
“Priodas” rhwng dyn a dyn neu dynes a dynes? Na- tydi hyn ddim yn gwneud synnwyr.
Nid yw pobl gall llawn casineb tuag at hoywon. Gellir hefyd dweud fod pobl gall yn deall yr hyn sy’n addas ac yn gwneud synnwyr.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.