Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Arestio pedwar ynglyn â honiadau bod newyddiadurwyr yn talu plismyn

Ionawr 28, 2012 10:31, Diweddarwyd am 12:00


Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio gan swyddogion  o ‘Weithrediad Elvenden’ sy’n ymchwilio i honniadau bod newyddiadurwyr wedi talu i blismyn am wybodaeth.

Cafodd y pedwar dyn rhwng 29 a 46 oed eu harestio yn eu cartefi ac wrth eu gwaith yn Llundain ac Essex rhwng 6 ac 8 bore yma.

Mae’r gwr 29 oed yn blismon ac yn gweithio i Uned Plismona Tiriogaethol Heddlu’r Metropolitan.

Roedd ar ddyletswydd mewn swyddfa ynghanol y ddinas pan gafodd ei arestio ar amheuaeth o lygredigaeth o dan amodau Deddf Atal Llygredigaeth 1906, camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio yng nghyd- destun y ddau drosedd.

Cafodd dau ddyn arall 48 a 56 oed eu harestio yn eu cartrefi yn Essex, a’r olaf, dyn 48 oed ei arestio yn ei gartref yng ngogledd Llundain.

Mae’r tri yn cael ei holi ar amheuaeth o lygredigaeth, cynorthwyo ag annog camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio ynghyd- destun y troseddau.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhiwlyg , Ionawr 28, 2012 11:40 am

Ers pryd mae dwy ‘n’ yn honiadau?? Ydw i wedi cysgu trwy ryw newidiadau sylfaenol yn nheithi’r iaith? Rhowch wybod? Mae hynn yn achosi pryder i mi ar fore Sadwrnn!

O ddifri, onid yw hi’n bryd i ni beidio dwblu’r ‘n’ bellach. Pa wahaniaeth mae’n ei wneud? Ga i anog pawb i fod yn anibynol eu barn a chynig un ‘n’ yn unig. Mae un N yn haner digon.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.