Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



39% o etholwyr yr Alban o blaid annibyniaeth

Ionawr 31, 2012 15:40


Alex Salmond
Mae arolwg barn newydd gan Ipsos-MORI i’r Times wedi datgan fod 39% o etholwyr yr Alban o blaid annibyniaeth – cynnydd o 1% yn unig ers ymchwil diwethaf y cwmni ym mis Rhagfyr.

Roedd y cwestiwn gafodd ei holi ar gyfer yr arolwg barn yr un fath a’r hyn roedd Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi ei gynnig wythnos diwethaf sef: “ydych chi’n cytuno y dylai’r Alban fod yn wlad annibynol?’

Ar gyfer yr arolwg barn ym mis Rhagfyr, fe ofynwyd: “Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’r cynnig i ymestyn pwerau Senedd yr Alban er mwyn caniatau i’r Alban ddod yn wlad annibynol, na fyddai’n rhan o’r DU.”

Llai yn dweud na

Er na fu cynnydd mawr yn y rhai sy’n ateb ‘ie,’ dim ond 50% oedd o blaid cadw’r undeb, i lawr o 57% yn yr arolwg barn blaenorol.

Er hynny, roedd 82% o’r rhai o blaid yr undeb yn honni eu bod nhw yn annhebyg o newid eu meddwl.

Roedd 69% o’r rhai o blaid annibyniaeth yn dweud eu bod yn annhebyg o newid eu meddwl.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.