Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Fred Goodwin yn colli’r anrhydedd o fod yn farchog

Ionawr 31, 2012 17:18, Diweddarwyd am 17:18


Mae cyn Brif Weithredwr banc RBS Fred Goodwin wedi colli’r anrhydedd o fod yn farchog, yn ôl Swyddfa’r Cabinet heddiw.

Fe wnaed y penderfyniad prynhawn ma gan gorff yn Whitehall sy’n gyfrifol am y system anrhydeddau.

Roedd y pwyllgor yn teimlo bod Fred Goodwin wedi dwyn anfri ar y diwydiant yn dilyn cwymp y banc a arweiniodd at wladoli rhan helaeth o RBS.

Cafodd “Fred the Shred” wybod y newyddion am 3pm prynhawn ma. Ni fydd yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.