
Cyn-ganghellor Alistair Darling
Mae Alistair Darling wedi beirniadu’r penderfyniad i dynnu’r teitl “Syr” oddi wrth Fred Goodwin ar ôl i gyn Brif Weithredwr banc RBS glywed ddoe ei fod yn colli ei anrhydedd o fod yn farchog.
Dywedodd y cyn Ganghellor Alistair Darling nad oedd yn deg bod y Llywodraeth wedi tynnu teitl Fred Goodwin tra bod ffigurau blaenllaw eraill heb gael eu cosbi.
Roedd Fred Goodwin yn bennaeth ar RBS pan aeth i drafferthion a bu’n rhaid i’r Llywodraeth gamu mewn i’w achub.
Cafodd yr anrhydedd ei “ddiddymu” gan y Frenhines ddoe ar ôl i bwyllgor arbennig benderfynu bod Fred Goodwin wedi dwyn anfri ar y system anrhydeddau.