Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Achos llys John Terry wedi ei ohirio tan ar ôl Ewro 2012

Chwefror 1, 2012 13:21


John Terry
Mae achos llys yn erbyn John Terry wedi ei ohirio tan fis Gorffennaf 2012.

Cyhuddwyd y pêl-droediwr, sy’n gapten i dîm Lloegr, o sarhad hiliol yn erbyn Anton Ferdinand o QPR, ar Hydref 23, 2011.

Penderfynodd y barnwr rhanbarthol Howard Riddle y dylai’r achos gychwyn ar Orffennaf 9 ar ol cael arddeall  na fuasai chwaraewyr Chelsea yn gallu ymddangos fel tystion tan ddiwedd y tymor pêl-droed.

Mae Terry yn wynebu dirwy o hyd at £2,500 os yn euog. Mae e wedi gwadu’r cyhuddiadau.

Mi fydd pencampwriaeth Ewro 2012 yn cychwyn ar Orffennaf 1.

Gwadu

Mewn datganiad, dywedodd ei gyfreithwyr fod “John Terry yn edrych ymlaen at y cyfle i glirio ei enw.

“Mae John Terry yn gwadu gwneud unrhyw ddatganiad hiliol, a bydd yn dangos yn y llys nag yw’n euog o’r fath drosedd. Dyw John Terry erioed wedi sarhau chwaraewr yn hiliol,” meddai.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.