Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dedfryd llofruddwyr Stephen Lawrence yn ‘briodol’

Chwefror 1, 2012 16:41


Dobson a Norris
Mae’r Twrne Cyffredinol wedi dweud bod y  dedfrydau a gafodd Gary Dobson a David Norris am lofruddio Stephen Lawrence yn “briodol” ac na fydd yn eu cyfeirio i’r Llys Apêl.

Dywedodd y Twrne Cyffredinol Dominic Grieve ei fod yn deall pam bod rhai yn anhapus gyda’r dedfrydau a gafodd y ddau sy’n dadlau eu bod yn rhy “hael” ond dywedodd bod yn rhaid ystyried oedran y ddau pan gyflawnwyd y drosedd.

Dywedodd ei fod wedi penderfynu peidio cyfeirio’r achos i’r Llys Apel ar ol “ystyriaeth gofalus.”

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion yn gynharach yr wythnos hon bod Dobson a Norris yn ceisio herio’r dedfrydau a gawson  nhw am lofruddio’r myfyriwr croenddu o Lundain mewn ymosodiad hiliol.

Cafodd y ddau ddedfryd o garchar am oes yn yr Old Bailey ym mis Rhagfyr.

Fe fydd Dobson, 36, yn gorfod treulio o leiaf 15 mlynedd a 2 fis dan glo, a  Norris, 35,  o leiaf 14 mlynedd a 3 mis yn y carchar.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.