Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Charlotte Church yn methu dod i gytundeb gyda NGN

Chwefror 8, 2012 11:20, Diweddarwyd am 12:14


Charlotte Church
Mae’r gantores Charlotte Church wedi methu a dod i gytundeb gyda News Group Newspapers, cyhoeddwyr y News of the World, ynglŷn â iawndal yn dilyn achosion o hacio ffonau.

Roedd Charlotte Church o Gaerdydd ymhlith deg o bobl eraill oedd wedi gwneud cais am iawndal yn yr Uchel Lys heddiw.

Dywedodd Hugh Tomlinson QC sy’n cynrychioli rhai o’r bobl, bod  naw o’r deg oedd wedi gwneud cais, wedi dod i gytundeb gyda NGN.

Credir bod y comediwr Steve Coogan, y canwr Pete Doherty a’r Aelod Seneddol Simon Hughes ymhlith y rhai oedd wedi gwneud cais am iawndal heddiw.

Clywodd y llys bod Steve Coogan wedi derbyn iawndal o £40,000.

Fis diwethaf, roedd NGN wedi dod i gytundeb gyda 37 o’r rhai oedd wedi gwneud cais am iawndal.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.